Digwyddiadau

Digwyddiad: Te Prynhawn Sul y Mamau

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
19 Mawrth 2023
Pris £20yp
Addasrwydd Pawb
Yng nghanol bwrdd mewn caffi mae silff lechen yn eistedd, arno mae amrywiaeth o gacennau, brechdannau ac eitemau wedi eu pobi gan gynnwys cacennau cri, cacen gaws a rholyn selsig

Edrych am syniadau i ddathlu Sul y Mamau eleni?

Dewch i ddathlu Sul y Mamau gyda the prynhawn yng Nghaffi’r Bwtri

Bydd detholiad o frechdanau cartref, cacennau a sgons ar gael i chi fwynhau gyda phaned o de Welsh Brew. 

Nifer penodol o lefydd sydd ar gael, felly bydd angen i chi archebu lle o flaen llaw.

Archebu Tocynnau

Digwyddiadau