Digwyddiadau

Digwyddiad: Teithiau'r Ystlumod

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
31 Gorffennaf–24 Awst 2023
Pris £6.50
Addasrwydd 8+

Hoff o ystlumod? Dewch draw i Sain Ffagan gyda’r hwyr wrth i ni fynd ar drywydd rhai o’r ystlumod sy’n byw yn yr Amgueddfa.

Tocynnau

Dyddiad                   Amser dechrau

31 Gorffennaf                    8.45pm

3 Awst                                  8.45pm

7 Awst                                  8.30pm

10 Awst                                8.30pm

14 Awst                                8.15pm

17 Awst                                8.15pm

21 Awst                               8pm

24 Awst                              8pm

  • Rhaid archebu ymlaen llaw

  • Archebwch docyn ar gyfer pob person fydd yn dod ar y daith

  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas a dewch â fflachlamp

  • Mae’r daith yn dechrau wrth brif fynedfa’r Amgueddfa, a bydd yn para rhyw awr a hanner

  • Mae parcio am ddim

  • Yn anffodus, allwn ni ddim caniatáu cŵn ar y daith, rhag ofn iddynt ddychryn yr ystlumod

  • Rydyn ni’n awgrymu bod y daith yn addas i oed 8+ gan fod llawer o gerdded.

  • Hygyrchedd: Mae’r digwyddiad hwn yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn ond bydd rhaid defnyddio llwybrau eraill mewn mannau. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu os hoffech chi drafod unrhyw bryderon.

  • Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).

  • Cofiwch y bydd angen i chi ddangos yr e-bost gyda’ch archeb.

Digwyddiadau