Digwyddiad: Project Adfer Clai
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Cymerwch ran mewn gweithdy gwych gyda'r artist o India, Purnendu Dey. Sesiwn llawn sbort o ddysgu am grefft tylino clai a datblygu gwrthrych cerfluniol. Sbardun y gweithdy yw comisiwn diweddaraf Purnendu Dey, Project Adfer Clai dan arweiniad Cyngor Puja Cymru. Mae wedi'i ysbrydoli gan waith adfer set eilunod Durga ryfeddol, gan gynnwys y bodau dwyfol Durga, Lakshmi, Saraswati, Kartik, a Ganesh, ac mae'r gweithdy yn rhoi cip unigryw ar y broses greu.
Cynnwys y Gweithdy:
- Dealltwriaeth o Gyd-destun Purnendu Dey: Dysgwch fwy am y project adfer clai gyda'r arbenigwr Pernudu Dey.
- Tylino Clai: Adeiladwch fodelau anatomig o glai a gwellt gyda chymorth yr artist preswyl a fideo archif o waith adfer delwau.
- Addurno: Defnyddiwch ddeunyddiau o India i greu setiau bach a regalia ar gyfer eich creadigaethau.
- Creadigaethau i'w Cadw: Gallwch chi fynd â phopeth fyddwch chi'n eu creu gyda chi.
- Cymorth a Chefnogaeth: Bydd aelodau pwyllgor Puja Cymru, yr artist Mr. Purnendu Dey a'i wraig Chitralekha ar gael i ateb eich cwestiynau.