Digwyddiadau

Digwyddiad: Wythnos Addysg Oedolion - Sgetsio Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
22 Medi 2023, 2pm-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Archebwch docyn ymlaen llaw

Dewch i ymuno â gweithdy darlunio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion. 

Mae’r sesiwn hon yn addas i bawb o bob lefel, ac yn gyfle i ddatblygu eich sgiliau darlunio wrth i ni archwilio adeiladau, tiroedd a chasgliadau Sain Ffagan. 

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn helpu i wella'ch lles, ac yn dda ar gyfer iechyd meddwl, felly dewch draw! Byddwn ni’n cwrdd yn y brif dderbynfa. Bydd deunyddiau ar gael, ond mae croeso i chi ddod â'ch deunyddiau eich hun hefyd. 

Cynhelir y gweithdy gan Marion Cheung https://www.arting.wales/ a Gareth Coles o Bywydau Creadigol https://www.creative-lives.org/ a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Tocynnau

Digwyddiadau