Digwyddiadau

Digwyddiad: Digwyddiad unigryw Rhodd yn eich ewyllys

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
14 Tachwedd 2023, 2yh-4.30yh
Pris Am ddim
Addasrwydd Oedolion

Eich stori, eich cymynrodd: Effaith un gymynrodd ar y casgliad cenedlaethol.

Ymunwch â ni am brynhawn arbennig i ddysgu sut wnaeth cymynrodd ein helpu i gaffael 21 golygfa o Ogledd Cymru gan Paul Sandby (1731-1809); yr ychwanegiad pwysicaf yn ddiweddar at gasgliad Amgueddfa Cymru o dirluniau Cymreig.

Yn ystod y digwyddiad, byddwch yn cael cipolwg ar ddetholiad o weithiau, sydd heb eu harddangos i'r cyhoedd eto. Bydd Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, yn edrych ar bwysigrwydd diwylliannol y gweithiau celf, a pham fod ganddyn nhw le amlwg yn naratif Cymru.

Bydd ein partneriaid cyfreithiol, Geldards, yn ymuno ac wrth law i ateb eich cwestiynau ar sut all rhoddion i elusennau fod yn ffurf effeithiol o gynllunio ar gyfer treth etifeddiant.

Mae cymynroddion yn gallu gweddnewid ein gwaith a'n casgliadau. Os hoffech chi ddysgu mwy am y ffordd effeithiol hon o gefnogi ein gwaith am flynyddoedd i ddod, ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn.

RSVP erbyn Dydd Gwener 3 Tachwedd drwy e-bostio datblygu@amgueddfacymru.ac.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hannah Richards, Swyddog Datblygu (Cymynroddion), ar 02920 573124 neu hannah.richards@amgueddfacymru

Digwyddiadau