Digwyddiad: Sgwrs Gyda: Lleisiau’r Wal Goch
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru


Ymunwch â ni am noson arbennig mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ffarwelio ag arddangosfa Lleisiau’r Wal Goch ac i ddathlu diwylliant unigryw cefnogwyr pêl-droed Cymru. Dan arweiniad Ryan March o’r cylchgrawn a’r podlediad pêl-droed Alternative Wales, dyma gyfle i glywed mwy gan rai o’r unigolion a’r cymunedau sy’n rhan o’r arddangosfa.
Cyflwyniad gan Noel Mooney.
Panelwyr:
Joe Ledley - Cyn Bêl-droediwr Rhyngwladol Cymru
Jalal Goni – Amar Cymru
Dr Penny Miles – Wal Goch y Menywod
Ani Glass - Cerddor, cynhyrchydd ac artist
Yn dilyn y panel trafod, bydd derbyniad diodydd gyda Set DJ byw gan Ani Glass a chyfle i weld arddangosfa Lleisiau'r Wal Goch.
Gwybodaeth Bwysig
Bydd cyfieithiad BSL ar gael.
Cyfieithydd BSL/Saesneg - Tony Evans & Julie Doyle
Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed
Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed
cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
*16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)