Digwyddiad: Siôn Corn a'i Ffrindiau yn Sain Ffagan
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Dim lle ar ôl

Bydd Siôn Corn a’i Gorachod yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig yn awyrgylch hudolus Llys Llywelyn, ail-gread un o lysoedd brenhinol Tywysogion Gwynedd o’r 13eg ganrif. Felly cofiwch archebu lle er mwyn i’r plantos gael ymuno yn yr hwyl.
Caiff bob plentyn:
- Gwrdd â Siôn Corn – bydd yn cwrdd â phob plentyn yn unigol i roi anrheg iddynt. Bydd cyfle i dynnu llun gyda Siôn Corn.
- Gymryd rhan mewn sesiwn amser stori rhyngweithiol gyda Siôn Corn a’r Corachod
- Gymryd rhan mewn gweithdy Crefft gyda’r Corachod - bydd pob plentyn yn creu addurn arbennig i fynd adref
Gwybodaeth Bwysig:
- Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 3+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
- Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language/BSL) ar gael ym mhob sesiwn ar 3, 10 a 17 Rhagfyr.
- Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Oherwydd prinder lle yn yr adeiladau hanesyddol, dim ond dau berson na fydd yn cymryd rhan gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Mae pobl nad ydynt yn cymryd rhan yn cynnwys plant dan 3 oed, babanod mewn breichiau, gofalwyr, oedolion a phobl hŷn.
- Nid oes angen tocyn ar bobl nad ydynt yn cymryd rhan ond ni fyddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft ac ni fyddant yn derbyn anrheg gan Siôn Corn.
- Rhaid gadael pramiau y tu allan i’r adeiladau.
- Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn.
- Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. Bydd gofyn i chi aros y tu allan tan amser cychwyn eich sesiwn.
- Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.
- Sylwer y bydd llawer o gerdded yn Sain Ffagan. Mae Llys Llywelyn tua 670m o'r Prif Adeilad. Caniatewch hyd at 15 munud i gerdded o faes parcio/prif adeilad yr Amgueddfa i Lys Llywelyn.
- Mae mynediad cadair olwyn yn bosibl i Lys Llywelyn, ble cynhelir y digwyddiad hwn. Mae'r llwybr mwyaf uniongyrchol o'r Prif Adeilad i Lys Llywelyn yn un tarmac llyfn neu goncrit. Mae toiledau hygyrch ar gael yn y Brif Fynedfa, Gweithdy, ger tai teras Rhyd-y-car ac yn Iard y Castell.
- Bydd goleuadau i greu effaith yn cael eu defnyddio yn y digwyddiad hwn.
- Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu eich tocyn i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Gostyngiad o 10% i Aelodau, dewch yn aelod heddiw