Arddangosfa: Dod Adref: Rhannu Straeon Iechyd Meddwl Cyn-filwyr

Celf gan Ian Kennedy




Mae Dod Adref yn arddangosfa profiadau bywyd sy'n cael eu hadrodd ar ffurf comic a chartŵn unigryw wedi'i gynhyrchu gan gyn-filwyr ar y cyd a sefydliad Celfyddydau mewn Iechyd Re-Live, artistiaid comic ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd.
Cofnodwyd straeon grŵp o gyn-filwyr ar-lein yn ystod pandemig Covid, ac mae eu straeon yn taflu goleuni ar agweddau o'u profiadau sydd prin yn cael eu trafod. Cefnogwyd y cyn-filwyr i rannu ac addasu naratif sy'n aml yn drawmatig, a gweithio gyda chartwnydd proffesiynol i greu stori orffenedig.
Mae’r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Being Human, gŵyl genedlaethol y Dyniaethau yn y DU, sy’n cael ei chynnal rhwng 9-18 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i beinghumanfestival.org.
Ar y cyd ag Prifysgol Caerdydd.