Digwyddiad: Cinio dydd Sul nadoligaidd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Dewch i fwynhau cinio Sul dau gwrs Nadoligaidd yn Sain Ffagan.
Y Nadolig yn Sain Ffagan. Mwynhewch ginio Sul dau gwrs blasus yn Y Gegin ar rai dyddiau Sul ym mis Rhagfyr, cyn mynd am dro o amgylch ein tiroedd hanesyddol hardd. Dewiswch dwrci, cig eidion neu rost cnau fegan gyda’r trimins i gyd, a phwdin Nadoligaidd i orffen.
Cofiwch archebu tocyn ar gyfer pob person yn eich grŵp.
Mae angen byrddau yn ôl erbyn diwedd eich slot amser – diolch yn fawr.