Digwyddiad: Teithiau Ysbryd Amgueddfa Sain Ffagan

Hoffech chi weld ochr dywyll Sain Ffagan? Dewch gyda ni ar ddwy daith fflachlamp!
Wyddoch chi ei bod yn bosibl mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o ysbrydion yn y byd? Tybed a oes rhai yma yn Sain Ffagan? Dewch i glywed straeon ysbryd go iawn am yr adeiladau hanesyddol a chlywed am ofergoelion y Cymry am farwolaeth, galar ac ysbrydion.
Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.
Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin a Dark Wales Tours yw’r teithiau.
Dydd Gwener
Dydd Gwener 2 - 7pmDydd Iau 8 - 7pm
Dydd Iau 15 - 7pm
Dydd Iau 29 - 7pm
Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.
Iaith: Cynhelir y taith yn Saesneg. Os hoffech drefnu taith iaith Gymraeg, cysylltwch â Dark Wales Tours.