Digwyddiad:Dydd Gŵyl Dewi

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Lle gwell i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru?

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r diwrnod arbennig hwn gyda:

  • Cyfle i weld casgliad arbennig o delynau o storfa Amgueddfa Cymru
  • Cerddoriaeth ar y delyn yn yr Atriwm
  • Perfformiadau acwstig yn rhai o'r adeiladau hanesyddol
  • Dawnsio gwerin gyda Chwmni Dawns Werin Caerdydd
  • Arddangos prosiect ffotograffiaeth gan Jukebox Collective a Bleak Fabulous
  • Gweithgareddau crefft i’r teulu am ddim
  • Cyfle i drio bwyd a diod o Gymru a chwrdd â rhai o’r cynhyrchwyr yn ein siopau
  • Dechrau’r tymor wyna yn Fferm Llwyn-yr-Eos

Sylwer: Rydym yn disgwyl bod yn brysur ac efallai y bydd yn rhaid i chi giwio am le parcio.

Amserlen

Drwy'r dydd: Arddangosfa delynau, Crefftau ac Arddangosfa prosiect ffotograffiaeth (Atriwm)

10.30am-11pm: Cerddoriaeth ar y delyn (Atriwm)

11.30am-12pm: Cerddoriaeth ar y delyn (Atriwm)

12pm-12.30pm: Perfformiad acwstig gan The Gentle Good (Capel Penrhiw)

1pm-1.30pm: Dawnsio gwerin (Iard Kennixton)

1.30pm-2pm: Perfformiad acwstig gan The Gentle Good (Capel Penrhiw)

1.30pm-2pm: Cerddoriaeth ar y delyn (Atriwm)

2pm-2.30pm: Dawnsio gwerin (Iard Kennixton)

2.30pm-3pm: Cerddoriaeth ar y delyn (Atriwm)

3pm-3.30pm: Perfformiad acwstig gan The Gentle Good (Capel Penrhiw)

3pm-3.30pm: Dawnsio gwerin (Iard Kennixton)

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

1 Mawrth 2025, 10am-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Erthygl
11 Ionawr

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor 10am-5pm bob dydd

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

> Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau