Digwyddiadau

DigwyddiadTeithiau Ysbryd Hwyr Amgueddfa Sain Ffagan

Wedi'i Orffen
13 a 27 Hydref, 8.45pm a 9.45pm
Pris £15 y tocyn
Addasrwydd 13+ (Rhaid i blant dan 18 fod gydag oedolyn)
Archebu lle www.cardiffhistory.co.uk

Hoffech chi weld ochr dywyll Sain Ffagan? Dewch gyda ni ar ddwy daith fflachlamp!

Wyddoch chi ei bod yn bosibl mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o ysbrydion yn y byd? Tybed a oes rhai yma yn Sain Ffagan? Dewch i glywed straeon ysbryd go iawn am yr adeiladau hanesyddol a chlywed am ofergoelion y Cymry am farwolaeth, galar ac ysbrydion.

Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.

Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a Cardiff History and Hauntings yw’r teithiau.

Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.

Gwener 13 - 9.45h

Gwener 27 - 8.45 & 9.45yh

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i wefan Cardiff History and Hauntings: www.cardiffhistory.co.uk

 

Cilewent
Logo 'Amgueddfeydd yn y Nos'
Digwyddiadau