Digwyddiad: Nosweithiau Nadolig





Mae pob tocyn sydd wedi ei brynu eisioes gan Ticketline UK dal yn ddilys ar gyfer y digwyddiad.
Mae ein Nosweithiau Nadolig yn ôl fis Rhagfyr, a pha ffordd well o ddechrau’r dathlu? Os ydych yn edrych am Nadolig Cymreig traddodiadol i’w gofio, yna cydiwch mewn llusern, gwisgwch yn gynnes a dilyn y seren i Sain Ffagan!
Dewch i ddathlu mewn steil gyda charolau yn y capel, gwasanaeth Plygain traddodiadol yn yr eglwys a band pres ar Lawnt Gwalia. Bydd cyfle i siopa Nadolig yn ein Marchnad Grefftau – cyfle i brynu nwyddau arbennig sydd ddim ar gael ar y stryd fawr.
Bydd cyfle i’r plantos gwrdd â Siôn Corn. Gallwch ysgrifennu llythyr yn yr ysgoldy, a’i bostio yn swyddfa bost leiaf Cymru. Yna, ewch draw i greu rhywbeth arbennig yn ein gweithdai crefft i’r teulu.
Bydd coed ar y tân, golau ar y goeden, a digon o hwyl Nadoligaidd i bawb!
Mae eich tocyn yn cynnwys:
- Canu carolau yn y Capel
- Plygain yn Eglwys Sant Teilo
- Cyfle i gwrdd â Siôn Corn
- Mari Lwyd & Hela'r Dryw
- Ysgrifennu llythyr i Siôn Corn yn yr ysgol Fictoraidd
- Band pres
- Straeon Nadoligaidd
- Traddodiadau Cymreig yr ŵyl
- Gweithdai crefft i’r teulu*
- Parcio (ar ôl 5pm)
*ddim yn cynnwys gweithgareddau Marchnad Grefftau a’r Ffair Draddodiadol
Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae pris y digwyddiad hwn yn cynnwys parcio.