Digwyddiadau

DigwyddiadPecyn Antur Sain Ffagan

Wedi'i Orffen
Pris £3.50
Addasrwydd Teuluoedd

Ydych chi wedi gweld ein pecynnau antur newydd? Maen nhw’n ffordd hwyliog i’r teulu ddarganfod yr Amgueddfa.

Dilynwch y map o gwmpas yr Amgueddfa i ddod o hyd i weithgareddau difyr:

  •    Galwch heibio’r Felin Flawd i falu grawn
  •    Defnyddiwch y glorian i bwyso pethau yn Siop Gwalia
  •    Dewch o hyd i anifeiliaid y fferm
  •    Ewch â rysáit i goginio gartref

Gallwch brynu pecyn antur o'r siop am £3.50.

Mae pob pecyn yn cynnwys llyfr gweithgaredd dwyieithog, pensel Sain Ffagan, pecyn o benseli lliw, taflen rysáit a bag o rawn ar gyfer gweithgaredd yn y Felin Flawd.

 

Digwyddiadau