Digwyddiad: Deino yn dianc
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae cynffon deinosor, olion traed a llygad deinosor i’w gweld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Credir eu bod yn perthyn i’r deinosor coll, a oedd yn crwydro o amgylch canol Caerdydd fis diwethaf ac yna a ymgartrefodd gyda’i deulu bach yn arddangosfa Deinosoriaid yn Deor Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Rydyn ni’n gofyn i ymwelwyr â Sain Ffagan ein helpu i ganfod y deinosor coll. Yw’r Dracoraptor wedi galw draw i fwynhau’r awyr iach a thafell o fara brith?
Ceisiwch ddod o hyd iddo wrth grwydro’r safle.