Digwyddiadau

Cwrs: Cyrsiau Diwrnod Wyna

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
6, 9, 11 a 13 Mawrth 2023, 8.30am-4pm
Pris £150 | £120 gostyngiad
Addasrwydd 16+
Llun: yn y sied wyna

Cyfle i fwynhau diwrnod cyfan yn sied wyna fferm Llwyn-yr-eos.

Gyda chymorth craff y tîm wyna, byddwch chi’n dysgu sut i ofalu am ddefaid beichiog, adnabod arwyddion esgor a delio â phroblemau cyffredin. Bydd genedigaeth yn ystod y dydd yn gyfle i dorchi llewys os ydych chi’n teimlo’n hyderus! Cewch dreulio amser yn y feithrinfa gyda’r defaid, yn helpu i asesu anghenion a lles yr ŵyn yn eu dyddiau cyntaf, ond bydd amserlen y diwrnod yn hyblyg, yn dibynnu ar brysurdeb y sied wyna.

Cwrs addas i ddechreuwyr llwyr – does dim angen profiad blaenorol o drin defaid.

Mae tri lle ar gael bob diwrnod. Darllenwch y canllawiau isod cyn archebu.

Tocynnau

Canllawiau a gwybodaeth diogelwch:

  • Dylai unrhyw berson beichiog, sydd â phartner beichiog, neu sy’n ceisio am blentyn ddarllen y canllawiau canlynol gan y GIG (Saesneg yn unig).
  • Mae’r dyddiadau wedi’u trefnu i gynnig y cyfle gorau i weld genedigaeth, ond mae wyna yn fusnes anodd ei ragweld ac allwn ni addo dim.
  • Byddwch yn barod i wisgo hen ddillad a throchi – rydyn ni’n argymell gwisgo trowsus gwrth-ddŵr (gallwn ni addo y byddwch chi’n penlinio mewn dom!)
  • Os ydych chi am dorchi llewys gofynnwn i chi dorri eich ewinedd a thynnu unrhyw farnais a modrwyau. Ein blaenoriaeth yn hyn o beth yw diogelwch y defaid.

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs  *(heblaw am Bopty Derwen)

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi yn yr ystod yr wythnosau cyn y cwrs gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu. 

  • Bydd digwyddiadau’r sied wyna yn cael eu ffrydio’n fyw ar wefan yr Amgueddfa fel rhan o broject #sgrinwyna. Wrth reswm, bydd unrhyw un sy’n mynychu yn ymddangos (er mai’r defaid yw sêr y sioe). Wrth archebu lle rydym yn cymryd eich bod yn rhoi caniatâd ymlaen llaw i gael eich ffilmio – bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen ganiatâd ffilmio a ffotograffiaeth ar y diwrnod.

Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Hygyrchedd: Gallai'r cwrs hwn fod yn anaddas i bobl â phroblemau symudedd oherwydd yr amodau yn y sied wyna. Cysylltwch cyn archebu i drafod unrhyw bryderon drwy e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk

Gostyngiadau i bobl ddigyflog, dros 60 oed,rhwng 16-18 oed, mewn addysg lawn amser a gyda cherdyn NUS, neu anabl.

Oed: 16+

Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Digwyddiadau