Digwyddiadau

DigwyddiadPenwythnos Gwlanog

Wedi'i Orffen
16 a 17 Mehefin 2018, 11am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Galwch draw i fferm Llwyn yr Eos i weld ein praidd yn cael eu cneifiad blynyddol a dysgu mwy am daith gwlân, o ddafad i ddefnydd.

Cyfle i gyfarfod y defaid a gweld arbenigwyr yn troelli, a rhoi cynnig arni eich hun, hyd yn oed, gyda gweithgareddau hwyliog i’r teulu yn yr Atriwm.

Ym Melin Wlân Esgair Moel, bydd cyfle i gwrdd â’n gwehydd preswyl. (Adeilad 51) Bydd cyfle hefyd i gwrdd a'n curadur i weld g wrthrychau o'r casgliadau amaethyddol.

Os ydych chi’n feichiog, neu’n credu y gallech chi fod, darllenwch y canllawiau GIG cyn dod i gyfarfod â’n defaid

Gweithgareddau Gwlanog

Yr Atriwm (Adeilad 1):

Rhowch gynnig ar grosio neu gweu

  • 11am-1.30pm a 2.30-4pm
  • Am ddim

Rhowch gynnig ar nyddu

  • 11am-12.30pm a 1.30-4pm
  • Am ddim

Ffeltio Nodwydd – Creu Robin Goch

  • 11.30am, 1pm & 2.30pm (3 x sesiwn 1 awr)
  • £3 y person
  • Nifer cyfyngedig o lefydd – archebwch wrth gyrraedd
  • Addas ar gyfer oed 12+

Fferm Llwyn Yr Eos (Building 6)  

  • 11am-1pm a 2-4pm
  • Arddangosiadau cneifio a nyddu
  • Cwrdd â’r Curadur

 Esgair Moel (Building 48) 

  • 11am-1pm a 2-4pm
  • Cwrdd â’r Gwehydd

 

Digwyddiadau