Digwyddiadau

CwrsBrodwaith Peiriant Gwnïo

24 Mawrth 2018, 10.30am-4pm
Pris £60 / £45
Addasrwydd 18+

Ymunwch â’r artist tecstilau Lisa Porch i ddysgu sgil newydd sbon mewn cwrs undydd hwyliog a chyfeillgar.

Bydd Lisa yn eich helpu i archwilio technegau brodwaith gyda pheiriant er mwyn cynhyrchu gweadau arbrofol, appliqué, darluniau les llinellog a thestun. Bydd y cyfranwyr yn creu cyfres o samplau tecstil er mwyn ymarfer y technegau hyn.

Tocynnau

Byddwn yn darparu’r holl offer a lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â chinio neu ymweld ag un o’n caffis. Mae pris y cwrs hwn yn cynnwys parcio - gallwch gwrdd â’r tiwtor wrth y brif fynedfa er mwyn cael eich tocyn parcio

Defnyddiwch y cod post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.

Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn.

Digwyddiadau