Cwrs: Dysgu Crosio
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Dyma gwrs crosio i ddechreuwyr. Mewn grwp bach, cewch ddysgu sut i greu’r pwythau sylfaenol a rhoi cynnig ar greu sgwâr nain. Byddwch yn gwau blanced gyfan mewn dim o dro!
Cafodd Anna Phillips ei dysgu i grosio fel plentyn gan ei mam-gu ac mae wrth ei bodd â phob math o grefftau a chreu.
Byddwn yn darparu’r holl offer a lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â chinio neu ymweld ag un o’n caffis. Mae pris y cwrs hwn yn cynnwys parcio - gallwch gwrdd â’r tiwtor wrth y brif fynedfa er mwyn cael eich tocyn parcio.
Nifer o docynnau: 6
Defnyddiwch y cod post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.
Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn.