Digwyddiadau

CwrsLliwio a phrintio sgarff organig

Wedi'i Orffen
23 Mehefin 2018, 10.30am-4pm
Pris £90 / £70
Addasrwydd 18+

Dewch i liwio a phrintio sgarff organig gyda Catherine Lewis, arbenigwr ar liwiau a thecstilau naturiol.

Cewch ymlacio wrth greu a dysgu am liwurau planhigion lleol, a sut mae eu cymysgu mewn i’r deunyddiau. Byddwch yn creu sgarff sidan feddal, hardd, gyda phatrymau a lliwiau o blanhigion sydd â nodweddion meddyginiaethol – fel tyrmerig, rhosyn, afocado, cnau Ffrengig, eirinllys, a llysiau’r dryw.

Tocynnau

Mae Catherine Lewis, artist tecstilau sy’n lliwio, printio a chreu inc, yn creu ei holl waith celf yn ei gweithdy yng Nghaerdydd. Caiff ei hysbrydoli gan harddwch, deunyddiau lleol a golygfeydd ôl-ddiwydiannol Cymru.

Mae pris y cwrs yn cynnwys £20 am sgarff sidan organig i chi lliwio.

Byddwn yn darparu’r holl offer a lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â chinio neu ymweld ag un o’n caffis. Mae pris y cwrs hwn yn cynnwys parcio - gallwch gwrdd â’r tiwtor wrth y brif fynedfa er mwyn cael eich tocyn parcio

Defnyddiwch y cod post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.

Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn.

Gweithdy lliwio
Digwyddiadau