Digwyddiad: Taith Ysbryd Amgueddfa Sain Ffagan

Hoffech chi weld ochr dywyll Sain Ffagan? Dewch gyda ni ar daith fflachlamp!
Wyddoch chi ei bod yn bosibl mai Cymru sydd â’r nifer fwyaf o ysbrydion yn y byd? Tybed a oes rhai yma yn Sain Ffagan? Dewch i glywed straeon ysbryd go iawn am yr adeiladau hanesyddol a chlywed am ofergoelion y Cymry am farwolaeth, galar ac ysbrydion.
Does dim gemau na thriciau ar y daith hon. Rydym wedi ymchwilio’n drylwyr ac yn driw i bob stori. Ar y daith golau fflachlamp o’r gerddi a’r adeiladau, awn i’r union lefydd lle mae pobl wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.
Partneriaeth rhwng Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a Cardiff History and Hauntings yw’r teithiau.
Nifer benodol o leoedd sydd ar gael. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, ewch i wefan Cardiff History and Hauntings: www.cardiffhistory.co.uk