Llogi Ystafelloedd

Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan

Cystadleuol a Chyfleus

Gofod cyfarfod a chyflwyno bychan a hyblyg, nid nepell o'r M4, mae Sain Ffagan yn leoliad gwych ar gyfer diwrnod hyfforddiant, cyfarfod neu weithdy.

© Phil Boorman

Yr Atriwm

© Phil Boorman

Lleoliad Unigryw

Mae safle'r amgueddfa yn llawn o hanes Cymru, yn ogystal â chyfleusterau cyfforddus a modern. Mae ein ystafelloedd newydd sbon yn cynnwys darlithfa a gofodau anffurfiol, sy'n addas ar gyfer cynadleddau, derbyniadau a diwgyddiadau rhwydweithio.

Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan

Croeso i Bawb

Os ydych chi'n grwp cymunedol, yn elusen gofrestredig, gorff addysg ffurfiol neu'n rhan o Lywodraeth Cymru, cewch logi stafell am ddiwrnod am bris gostyngedig.

Cysylltwch â ni i weld a allwn ni eich helpu.
Amgueddfa Werin Cymru Sain Fagan

Cefnogwch ein gwaith

Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.

Llogwch ein lleoliad er mwyn cefnogi'n gwaith elusennol - yn darparu digwyddiadau, arddangosfeydd a chyfleon i ddegau o filoedd o ymwelwyr, bob blwyddyn.