Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf – Creu Cof Digidol

I goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, creodd Amgueddfa Cymru raglen weithgareddau i adrodd straeon pobl Cymru drwy ein casgliadau, archwilio’r meysydd unigryw hynny gafodd effaith ar Gymru ac ar fywyd ei phobl, a deall yn well yr hanes y tu ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf a'i ddigwyddiadau allweddol, a'r gwaddol i ni heddiw.

Casgliadau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Lawnswyd yr adnodd digidol hwn nôl yn Nhachwedd 2014, gyda chymorth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog. Ers hynny, rydym wedi ymchwilio, digideiddio a rhannu ar-lein yn rhad ac am ddim dros 1,200 o wrthrychau, archifau a ffotograffau.

Darganfyddwch mwy >

Dyddiadur Kate
Mae'r cyfri twitter @DyddiadurKate yn trydar dyddlyfrau Kate Rowlands, Sarnau. Ganrif yn ddiweddarach, mae ei chofnodion o 1915 yn rhoi golwg i ni ar fywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Darganfyddwch mwy >

Straeon o'r Stordy
Mae ein casgliadau yn llawn straeon anhygoel am y Rhyfel Byd Cyntaf a'i effaith ar fywyd yng Nghymru.

Darganfyddwch mwy >

Y Dychweliad / The Return
I nodi canmlwyddiant Dawns Fuddugoliaeth a gynhaliwyd yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ym 1919, bu’r Amgueddfa yn gweithio mewn partneriaeth gyda Re-Live i lwyfannu Y Dychweliad / The Return.

Darganfyddwch mwy >