Bwyd a Diod

Arwydd crwn ar ffenest sy'n dweud 'Bwyty Y Gegin Restaurant'
 

Yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, rydym yn ymfalchïo mewn darparu bwyd da o safon, sy'n cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol lle bo modd.

Y Gegin

Ar agor bob dydd 10am–4.30pm

Prydiau poeth ar gael rhwng 12–3pm

Bwyty modern yn y prif adeilad lle gallwch fwynhau pryd o fwyd blasus neu ymlacio yn ardal ein caffi gyda phaned a chacen.

PysgOdyn 

Ar agor yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol

Erbyn y 1920au, roedd siop sglodion ar gornel bron bob stryd yng Nghymru– dyma’r siopau ‘tecawê’ cyntaf.

Galwch heibio i flasu pysgodyn cytew cwrw Sain Ffagan a sglodion.

Gweithdy

11am-3pm

Caffi yn yr adeilad arbennig yn gweini detholiad o brydau bach ysgafn, diodydd a chacennau.

Bwtri’r Castell

Oriau agor tymhorol. Gofynnwch wrth y dderbynfa

Caffi bychan yn gweini detholiad o ddiodydd, brechdanau a chacennau – beth well ar ôl bod am dro yng Ngerddi’r Castell?

Mae cadeiriau uchel ar gael i fabanod yn y safleoedd uchod.

Mae Popty’r Dderwen yn gwerthu bara a byrbrydau eraill.

Roedd yr wybodaeth a nodwyd yn gywir pan roddwyd ar y wefan.

Pwt o wybodaeth am Elior

Darperir arlwyaeth yn fewnol gan yr arlwywr sector celfyddydau a threftadaeth arbenigol, Elior. Mae'r tîm profiadol hwn yn darparu bwydlenni sy'n ysbrydoli a gwasanaeth heb ei ail. Caiff y bwyd ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres ar bob cyfle posibl.