Canllawiau Mynediad – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cyfleusterau newid babi

  • Ceir cyfleusterau newid babanod ger y Brif Fynedfa.

Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

  • Ceir mannau parcio arbennig ar gyfer ymwelwyr anabl yn y maes parcio, ger prif fynedfa'r amgueddfa. Ceir rampiau'n arwain at y fynedfa a'r siopau.

  • Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio, am ddim, os gofynnwch amdanynt, yn y prif gyntedd. Er na ellir trefnu rhag blaen i ddefnyddio'r cadeiriau hyn ac mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu, byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os cawn gais ymlaen llaw.

  • Gellir mynd i'r rhan fwyaf o'r safle mewn cadair olwyn. Fodd bynnag, gan fod rhai o'r adeiladau yn ein casgliad yn hen iawn, gall fod yn anodd mynd i fewn iddynt.

  • Mae'n werth nodi hefyd bod tirlun ochr y Castell yn serth mewn mannau ac yn gallu profi'n anodd i rai defnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Nodir y llwybrau haws ar yr arwyddbyst. Gellir prynu copi o fap yn egluro llwybrau addas i gadeiriau olwyn.

  • Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd i’r mannau bwyta, Y Gegin ac Y Gweithdy.

  • Ceir toiledau ar gyfer ymwelwyr anabl wrth y Brif Fynedfa, ger bythynnod Rhyd-y-car ac yn Iard y Castell.

Ymwelwyr dall neu rhannol ddall

  • Un o bleserau ymweld â Sain Ffagan yw clywed y synnau a ffroeni arogleuon ar safle mor amrywiol, o fara ffres yn y Becws a'r tannau agored yn y ffermdai i anifeiliaid y fferm.

  • Mae aelod o staff wrth law yn y rhan fwyaf o'r adeiladau ac mae llawer o grefftau ac arddangosiadau i'w gweld ar y safle. Bydd yn bleser gan ein staff esbonio'r technegau a'r sgiliau i chi.

  • Gall rhai rhannau o'r safle, fel y nant a'r llynnoedd, beri trafferth i bobl sydd â nam ar eu golwg. Gallwch holi am gyngor wrth y Dderbynfa cyn mynd allan i'r safle.

Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw

  • Mae byrddau gwybodaeth mawr ger yr adeiladau i gyd.

Anghenion dysgu ychwanegol

  • Mae'r arweinlyfr, sy'n cynnwys cynllun o'r safle, yn cyflwyno'r casgliad mewn ffordd glir a chryno sy'n cynnwys nifer o luniau a diagramau. Ceir mapiau mawr o'r safle yma a thraw yn yr amgueddfa.

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Cŵn

  • Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn yr orielau, y tai hanesyddol na'r caffis.

  • Mae croeso i gŵn ym mhob ardal arall, ond rhaid eu cadw ar dennyn drwy'r amser.

  • Bydd powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.

  • Bydd 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.

Uned Lleoedd Newid

  • Mae dau doiled Changing Places ar gael gan gynnwys un sydd â gwely electronig ac offer codi yn ogystal â'r cyfleusterau arferol. Gofynnwch i aelod staff am fanylion os gwelwch yn dda.