Teuluoedd

  

Fel Amgueddfa sy’n cefnogi Maniffesto Kids in Museums, ac a enwebwyd yn un o ‘r lleoliadau rhad ac am ddim gorau i ymweld ag ef yn ne ddwyrain Cymru mewn pleidlais ar Netmums.com, mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnig diwrnod o archwilio llawn hwyl i bobl o bob oed.

Saif yr Amgueddfa ar dir sy’n gymysgedd o feysydd agored prydferth a choetir hynafol, lle mae dros 40 o adeiladau wedi’u hailgodi i roi blas i chi o fywyd, gwaith a hamdden teuluoedd Cymru drwy’r oesoedd.

Cewch gyfle i gyfarfod crefftwyr cyfeillgar fel y Clocsiwr a’r Gof a chael cyfle i ddysgu am wehyddu gwlân neu wneud blawd.

Mae ymwelwyr wrth eu bodd yn cyfarfod ag anifeiliaid yr Amgueddfa; gallwch weld gwartheg a defaid yn pori yn y caeau a hwyaid, ieir ac weithiau moch bach ar fferm Llwyn-yr-Eos.

Mae digonedd o le i redeg o gwmpas ac archwilio.  Wedi ichi fwynhau’r awyr iach, beth am fynd ar daith ar ein tractor ac ymweld â’n bwyty lle gellir prynu cinio neu focs bwyd i blant , neu mae digonedd o lefydd i fwyta’ch picnic yn yr awyr agored.

Gofynnwch wrth y brif fynedfa am ein rhaglen lawn o ddigwyddiadau hwyliog sy’n cynnwys arddangosiadau coginio, ailgreadau a gweithgareddau celf a chrefft ymarferol.

Mae nifer o’n hadeiladau hanesyddol yn fach, ac mae’r diffyg lle yn golygu na allwn ganiatáu pramiau a chadeiriau gwthio. Gofynnwn yn garedig i chi eu gadael tu allan i’r adeiladau. Gallwch fynd â phramiau a chadeiriau gwthio i mewn i adeiladau mwy fel Oakdale, Eglwys Sant Teilo a Siop Gwalia.

Bwyd a Diod

Yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, rydyn ni'n ymfalchïo mewn darparu bwyd da o safon, sy'n cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol lle bo modd.

Mae Ystafelloedd Te Gwalia, i fyny'r llofft yn Siop Gwalia, yn cynnig profiad traddodiadol o'r 1930au gyda cinio ysgafn a the'r prynhawn.

Gwerthir hufen iâ blasus Mary's Farmhouse, heb unrhyw ychwanegion, ym Mwyty'r Fro, Bwyty Bardi ac o gwmpas y safle.

Mae cadeiriau uchel ar gael i fabanod.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Bwyd a Diod »

Partïon Plant

Beth am gynnal parti pen-blwydd eich plentyn yma yn Sain Ffagan? Mae digonedd o adloniant i ddiddanu'r plant am oriau. Gallwn ni ofalu am y bwyd a'r diod gyda dewis o brydau oer a phoeth, pwdinau a diodydd.