Nid oes eitemau yn eich basged Desg dalu

'The Great War: Britain's Efforts and Ideals' Printiau'r Rhyfel Byd Cyntaf

Pris £5
Argaeledd Mewn stoc
Efforts and Ideals cy

'The Great War: Britain's Efforts and Ideals' Printiau'r Rhyfel Byd Cyntaf

£5
Argaeledd Mewn stoc

Ym 1917 anfonwyd miliynau o wŷr a bechgyn Prydain i faes y gad - ond roedd eu teuluoedd adref hefyd yn dioddef caledi, prinder bwyd a cholledion mawr. Er mwyn ysbrydoli’r cyhoedd, dyma’r Biwrô Propaganda yn comisiynu deunaw artist blaenllaw, gan gynnwys Frank Brangwyn ac Augustus John, i gynhyrchu’r gyfres hon o ddelweddau.

Er bod y testunau a’r themâu dan reolaeth gaeth y Biwrô, mae’r delweddau yn dangos effaith y rhyfel ar gymdeithas, yn enwedig rôl menywod. Cyhoeddwyd y printiau yn eang wedi eu harddangos am y tro cyntaf ym 1917. Ymateb llugoer gafwyd mewn rhai mannau fodd bynnag, a beirniadwyd rhai delweddau am eu portread rhamantaidd o ryfel. Cyflwynwyd set gyfan i Amgueddfa Cymru ym 1919, ac arddangoswyd y printiau am y tro cyntaf erioed yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2014.

Mae'r catalog yn cynnwys pob un delwedd o'r set, sef 66 delwedd, gan 18 artist.

Awdur: Amgueddfa Cymru
Blwyddyn cyhoeddi: 2014
ISBN: 9780720006285
Rhwymiad: Clawr papur
Nifer o dudalennau: 56
Iaith: Cymraeg
Wedi'i Ychwanegu at y fasged
Desg dalu
* Please select a date and time.