Nid oes eitemau yn eich basged Desg dalu

Martin Parr yng Nghymru

Pris £19.99
Argaeledd Mewn stoc

Martin Parr yng Nghymru

£19.99
Argaeledd Mewn stoc

Rhag-archebwch Martin Parr yng Nghymru yma. Dyddiad dosbarthu (amcangyfrif): 24 Hydref 2019

Bu Martin Parr yn tynnu lluniau o bobl a llefydd ar draws y byd ers degawdau, ac mae’n un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf blaenllaw'r byd erbyn hyn. Mae’r llyfr hwn yn dangos datblygiad ei weledigaeth ar ei deithiau trwy Gymru. Ceir yma luniau o leoliadau sy’n nodweddiadol ac yn gyfarwydd yn ei waith: y traeth, yn benodol – yn enwedig Dinbych-y-pysgod, sef ‘y harddaf o drefi glan môr y DU’ yn ei eiriau ef. Ceir hefyd golygfeydd mwy neilltuol Gymreig: cymoedd y de, Eryri, y Sioe Frenhinol.

Yn y darluniau mwyaf diweddar gwelwn canlyniad newid mewn techneg, wrth iddo ddechrau defnyddio lens teleffoto. Mae’r holl ddelweddau hyn yn dangos nad y gwahanol a’r unigryw sy’n mynd â bryd Parr, ond yn hytrach ‘y cyfarwydd; yr eiliadau ... a rannwn fel pobl’.

Gyda chyflwyniad gan Owen Sheers.

Blwyddyn cyhoeddi: 2019
ISBN: 978-0-7200-0646-9
Rhwymiad: Clawr caled
Nifer o dudalennau: 96
Iaith: Cymraeg
Wedi'i Ychwanegu at y fasged
Desg dalu
* Please select a date and time.