Nid oes eitemau yn eich basged Desg dalu

Martin Parr yng Nghymru - Argraffiad arbennig

Pris £300
Argaeledd Mewn stoc

Martin Parr yng Nghymru - Argraffiad arbennig

£300
Argaeledd Mewn stoc

Caiff Martin Parr yng Nghymru ei gyhoeddi i gyd-fynd â'r arddangosfa o'r un enw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r argraffiad arbennig hwn yn cynnwys print cyfyngedig wedi'i lofnodi, ac yn dod mewn blwch caled wedi'i ddylunio'n arbennig. Argraffiad o 100 yn unig.

Bu Martin Parr yn tynnu lluniau o bobl a llefydd ar draws y byd ers degawdau, ac mae’n un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf blaenllaw'r byd erbyn hyn. Mae’r llyfr hwn yn dangos datblygiad ei weledigaeth ar ei deithiau trwy Gymru. Ceir yma luniau o leoliadau sy’n nodweddiadol ac yn gyfarwydd yn ei waith: y traeth, yn benodol – yn enwedig Dinbych-y-pysgod, sef ‘y harddaf o drefi glan môr y DU’ yn ei eiriau ef. Ceir hefyd golygfeydd mwy neilltuol Gymreig: cymoedd y de, Eryri, y Sioe Frenhinol.

Yn y darluniau mwyaf diweddar gwelwn canlyniad newid mewn techneg, wrth iddo ddechrau defnyddio lens teleffoto. Mae’r holl ddelweddau hyn yn dangos nad y gwahanol a’r unigryw sy’n mynd â bryd Parr, ond yn hytrach ‘y cyfarwydd; yr eiliadau ... a rannwn fel pobl’.

Gyda chyflwyniad gan Owen Sheers.

Awdur: Martin Parr
Blwyddyn cyhoeddi: 2019
ISBN: 978-0-7200-0646-9
Rhwymiad: Clawr caled
Wedi'i Ychwanegu at y fasged
Desg dalu
* Please select a date and time.