Manylion Cyswllt

Sioned Williams
Bywyd Gwerin
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ffôn: +44 (0)29 2057 3458

Enw Staff

Sioned Williams

Enw Swydd

Prif Guradur: Hanes Modern

Cyfrifoldebau:

Casgliadau: Dodrefn Cymreig (1500au hyd heddiw), defnyddiau dodrefn, clociau, gwneuthurwyr clociau o Gymru, diwylliant materol yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn gweithio ar Broject Ailddatblygu Sain Ffagan ar hyn o bryd.

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

BA Cyd-anrhydedd Cymraeg a Hanes Cymru (Prifysgol Caerdydd); PhD (yn y Gymraeg) ar agweddau ar ddiwylliant materol boneddigion Sir Ddinbych a Sir y Fflint, 1540-1640 (Prifysgol Caerdydd, 1999); Aelod o’r Society for Folklife Studies.

Diddordebau Ymchwil

Wrthi’n ymchwilio i Ysbyty’r Fintai Gymorth Wirfoddol yng Nghastell Sain Ffagan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; y llys Cymreig yn y 13eg ganrif fel rhan o broject ail-greu llys tywysog o’r oesoedd canol yn seiliedig ar Lys Rhosyr, Ynys Môn.

Ymhlith ei diddordebau ymchwil eraill mae Cadeiriau Barddol eisteddfodau cenedlaethol a lleol, dodrefn Bryn-mawr, dodrefn aml-bwrpas, celf gwerin.

Allweddeiriau

Dodrefn, clociau, Cadeiriau barddol, Eisteddfod, Castell Sain Ffagan.

Cysylltiadau

Detholiad o Gyhoeddiadau

Bebb, R. & Williams, S. 2009. Y Gadair Farddol / The Bardic ChairSaer, Cydweli, 229 tt.

Williams, S. 2002. Cartrefi a chelfi y bonedd yn siroedd Dinbych a’r Fflint. Yn Geraint H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVII, 35-64.