Dim llun

Manylion Cyswllt

Sally Whyman
Y Gwyddorau Naturiol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Ffôn: +44 (0)29 2057 3345

Enw Staff

Sally Whyman

Enw Swydd

Curadur Botaneg

Cyfrifoldebau:

Mae’n gyfrifol am reoli’r casgliadau planhigion fasgwlaidd yn Llysieufa Cenedlaethol Cymru (y mae Rubus, Hieracium, Taraxacum a Sorbus yn gryfderau amlwg). Mae’n rheoli benthyciadau sbesimenau sydd ar fenthyg ac ymholiadau data ar gyfer y maes casglu hwn. Mae’n cynnal ymchwil yn ymwneud â phabïau, Rhododendron. Mae’n ymgysylltu â phob math o gynulleidfaoedd, sy’n cynnwys bod yn aelod allweddol o dîm project y Ddôl Drefol a Gwenyn y Ddinas.

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

MPhil ar sytotacsonomeg isadrannau RhododendronHeliolepida a Triflora. Aelod a chyd-olygydd Bwletin Cymru’r Botanical Society of Britain and Ireland ers 2010. Mae hi hefyd yn aelod o Plant Life, Grŵp Cadwraeth Rhywogaeth Rhododendron, y Natural Sciences Collections Association (NATSCA) a’r Porcupine Marine Natural History Society.

Diddordebau Ymchwil

Ymchwil i ystod eang o bynciau botanegol ar gyfer digwyddiadau allestyn ac arddangosfeydd y Gwyddorau Naturiol – beth yw’r ffordd orau o arddangos a defnyddio’r casgliadau botanegol ar gyfer y rhain.

Ymchwil i’r pabi – curadur allweddol ar gyfer yr arddangosfa sydd ar daith ar hyn o bryd, Pabi'r Coffáu.

Cysylltiadau

Detholiad o Gyhoeddiadau

Slade K. & Whyman, S. 2014.  Report on the Guernsey seaweed fieldwork [PDF].  Porcupine Marine Natural History Society’s Newsletter, Gwanwyn 2014.

Postiau Blog