Proffil Staff Paul Cabuts
Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus (Celf)
Manylion Cyswllt
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
Ffôn: +44 (0)29 2057 N/A
Enw Staff
Enw Swydd
Cyfrifoldebau:
Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol
PhD Ffotograffiaeth (Prifysgol Cymru, Casnewydd). MA Celf Gain (Prifysgol Aberystwyth).
BA (Anh.) Ffotograffiaeth Ddogfennol (Prifysgol Cymru, Casnewydd). Cymrawd, yr Academi Addysg Uwch. Swyddi blaenorol: Cyfarwyddwr, Athrofa Ffotograffiaeth (Prifysgol Falmouth). Cadeirydd, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr (Ffotograllery Wales). Aelod, Pwyllgor Casglu Celf (Prifysgol De Cymru).
Diddordebau Ymchwil
Cwblhaodd Paul Cabuts ei Ddoethuriaeth yng Nghanolfan Ewropeaidd Ymchwil Ffotograffig lle bu'n edrych ar y ffactorau a lywiodd ddatblygiad y celfyddydau ffotograffig yng Nghymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Un o'i brojectau fu edrych ddylanwad y ffotograffydd o America, W. Eugene Smith, ar ffotograffiaeth yng Nghymru. Mae ganddo ddiddordeb yn y pontio rhwng ffotograffiaeth a chelf, ac mae wedi astudio gwaith ffotograffig a wnaed yng Nghymru gan yr artist John Piper. Fel ffotograffydd sydd wedi dangos a chyhoeddi ei waith yng Nghymru, y DU a thu hwnt, mae ganddo ddiddordeb yn y berthynas ddibynnol rhwng ymchwil ac arfer.
Allweddeiriau
Ffotograffiaeth, Cymru, cymdeithas, diwylliant, atgof, lle, dogfennu, adrodd stori, celf, diwydiant, archifau, casgliadau.Detholiad o Gyhoeddiadau
Cabuts, P. 2016. The Valleys Project Archive. Yn E. Foden-Lenahan (gol.). Art Libraries Journal, 41, Rhifyn 03, 141-150.
Cabuts, P. 2014. Rhagair. Yn C. Thomas, In Our Own Image: A Century of Imaging of and in South Wales . Prifysgol De Cymru.
Cabuts, P. 2012. Creative Photography and Wales: The Legacy of W. Eugene Smith in the Valleys. Gwasg Prifysgol Cymru.
Cabuts, P. 2009. Three Boys and a Pigeon: Photography and Wales. Yn H. Michelsen (Gol.), Planet: The Welsh Internationalist , 196, 64 – 74.