Jana Horak

Manylion Cyswllt

Dr Jana Horak
Mwynoleg a Phetroleg
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Ffôn: +44 (0)29 2057 3353

Enw Staff

Dr Jana Horak

Enw Swydd

Pennaeth Mwynoleg a Phetroleg

Cyfrifoldebau:

Rheoli, datblygu a sicrhau mynediad i gasgliadau mwynoleg a phetroleg, gan gynnwys cerrig adeiladu a meteorynnau. Ymchwil betrolegol, ymgysylltiad y cyhoedd â gwyddoniaeth.

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

PhD (Prifysgol Cymru), B.Sc. (Anrh) Daeareg (Prifysgol Cymru), Tystysgrif mewn Rheoli (Y Brifysgol Agored), Tystysgrif mewn Gemoleg (Gemmological Association), Darlithydd Mygedol Prifysgol Caerdydd, Daearegydd Siartredig, Gwyddonydd Siartredig (Science Council), Ysgrifennydd Fforwm Cerrig Cymru, Cadeirydd y Pwyllgor Dilysu Siarteriaeth (Mineralogical Society of GB & Ireland), Aelod o’r Pwyllgor Proffesiynol (Geological Society of London).

 

Diddordebau Ymchwil

Tarddiad yw thema gyffredin fy niddordebau ymchwil presennol. Mae ymchwil barhaus i esblygiad daearegol cynnar Cymru yn cynnwys perthynas yr islawr Afalonaidd o dan de Prydain, a ffynhonnell gwaddodion y cyfnod cyn Gambriaidd Diweddar i’r cyfnod Cambriaidd yng ngogledd orllewin Cymru. Mae’r project diwethaf hwn yn seiliedig ar ddulliau LA-ICPMS o ddyddio malurion sircon (gweler Projectau Ymchwil). Mae projectau eraill yn cynnwys ymchwilio i gemeg elfennau hybrin aur Cymru, gan gymhwyso hyn i ymchwil fwynegol ac archeaolegol. Mae ystod o brojectau eraill ac ymchwil dan gontract yn ymwneud ag olrhain tarddiad cerrig yn yr amgylchedd adeiledig o’r cyfnod canoloesol, olrhain tarddiad cerrig mewn cyd-destunau archaeolegol ac amrywiadau mewn maen llasar fel dull o olrhain tarddiad, a synthesis ar gerrig addurnol Ynysoedd Prydain. Mae fy astudiaethau cerddolegol yn canolbwyntio ar reoli casgliadau yn effeithiol, yn enwedig mwynau peryglus ac atebolrwydd am sbesimenau a ddefnyddir mewn gwaith ymchwil.

Prosiectau Ymchwil

Provenancing Monian supergroup (gyda’r Athro U. Linneman, Natural History Museum, Dresden, Dr D. Schofield, British Geological Survey). Olrhain tarddiad a dyddio tywodfaen yn y Gwna Melange er mwyn manylu ar y cyfnod dyddodi.

Lapis Lazuli, a potential provenancing tool through non-destructive analysis. (gyda Cotterell. Casglu setiau data o fwynoleg maen llasar o amrywiol gasgliadau i ganfod gwahaniaethau mwynegol yn y gwahanol ffynonellau. Profi canfyddiadau fel dull o olrhain tarddiad maen llasar mewn cyd-destun archaeolegol.

Dadansoddi elfennau hybrin aur Cymru fel dull o olrhain tarddiad. (gyda’r Athro N. Pearce, Prifysgol Aberystwyth a Dr R. E. Bevins). 

Allweddeiriau

Neoproterosöig, daeareg Cymru, tarddiad, dadansoddiad isotopig, LA-ICPMS, archaeobetroleg, carreg adeiladu, mwynau peryglus, rheoli casgliadau.

Cysylltiadau

Detholiad o Gyhoeddiadau

Baars, C., Horak, J. 2018. Storage and conservation of geological collections—a research agenda. Journal of the Institute of Conservation 41: 154-168.

Schofield, David I., Potter, Joanna, Barr, Sandra M., Horák, Jana M., Millar, Ian L., Longstaffe, Frederick J. Reappraising the Neoproterozoic ‘East Avalonian’ terranes of southern Great Britain, Gondwana Research (2015), doi: 10.1016/j.gr.2015.06.001

Hughes, T., Horák, J., Lott, G. & Roberts, D. A Global Heritage Stone Resource from the United Kingdom. Episodes, Journal of International Geoscience.

Price, M., Horák, J. & Faithfull, J. 2013. Identifying and managing radioactive geological specimens. Journal of Natural History Collections, 1, 27-33.

Horák, J.M., & Evans, J.A., 2011. Early Neoproterozoic limestones from the Gwna Group, Anglesey. Geological Magazine, 148, 78-88.

Webster, P.V., Gwilt, A. & Horak, J. 2006. Iron Age Pottery, In Barber, A., Cox, S. & Hancocks, A., A Late Iron Age and Roman Farmstead at RAF St Athan, Vale of Glamorgan. Evaluation and Excavation 2002-03, Archaeologia Cambrensis, 155, 71-81. 

Mcllroy, D. & Horák, J.M. 2006. The Neoproterozoic of England & Wales. In: Brenchley, P. J. & Rawson, P.F. (gol) 2006 The Geology of England and Wales. The Geological Society of London, 9-24.

Carney, J.N., Horák, J.M., Pharaoh, T.C., Gibbons, W., Wilson, D., Barclay, W.J., Bevins, R.E.Cope, J.C.W. & Ford, T.D. 2000. Precambrian Rocks of England and Wales. Geological Review Series No. 20.  Joint Nature Conservation Committee, Peterborough

Postiau Blog