Proffil Staff Sioned Williams
Prif Guradur: Hanes Modern
Manylion Cyswllt
Ffôn: +44 (0)29 2057 3458
Enw Staff
Enw Swydd
Cyfrifoldebau:
Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol
BA Cyd-anrhydedd Cymraeg a Hanes Cymru (Prifysgol Caerdydd); PhD (yn y Gymraeg) ar agweddau ar ddiwylliant materol boneddigion Sir Ddinbych a Sir y Fflint, 1540-1640 (Prifysgol Caerdydd, 1999); Aelod o’r Society for Folklife Studies.
Diddordebau Ymchwil
Wrthi’n ymchwilio i Ysbyty’r Fintai Gymorth Wirfoddol yng Nghastell Sain Ffagan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; y llys Cymreig yn y 13eg ganrif fel rhan o broject ail-greu llys tywysog o’r oesoedd canol yn seiliedig ar Lys Rhosyr, Ynys Môn.
Ymhlith ei diddordebau ymchwil eraill mae Cadeiriau Barddol eisteddfodau cenedlaethol a lleol, dodrefn Bryn-mawr, dodrefn aml-bwrpas, celf gwerin.
Allweddeiriau
Dodrefn, clociau, Cadeiriau barddol, Eisteddfod, Castell Sain Ffagan.Cysylltiadau
Detholiad o Gyhoeddiadau
Bebb, R. & Williams, S. 2009. Y Gadair Farddol / The Bardic Chair. Saer, Cydweli, 229 tt.
Williams, S. 2002. Cartrefi a chelfi y bonedd yn siroedd Dinbych a’r Fflint. Yn Geraint H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVII, 35-64.