Katherine Slade

Manylion Cyswllt

Katherine Slade
Y Gwyddorau Naturiol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Ffôn: +44 (0)29 2057 3242

Enw Staff

Katherine Slade

Enw Swydd

Curadur Botaneg

Cyfrifoldebau:

Rwy’n gyfrifol am reoli’r casgliadau planhigion is yn Llysieufa Cenedlaethol Cymru (ffyngau, cennau, mwsoglau, llysiau’r afu ac algâu), gan gynnwys llysieufa cenedlaethol y British Bryological Society. Rwy’n rheoli benthyciadau sbesimenau ac ymholiadau data ar gyfer y maes hwn. Rwy’n cynnal ymchwil yn ymwneud â’r casgliadau macroalgâu ac ymgysylltu â phob math o gynulleidfaoedd. Mae’n cydgysylltu strategaeth cyfryngau cymdeithasol yr adran Fotaneg, gan ganolbwyntio ar wella mynediad digidol at y casgliadau.

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

BSc Anrhydedd mewn Bioleg Planhigion, MSc mewn Bioamrywiaeth a Thacsonomeg Planhigion. Cyd-olygydd Bwletin Cymru y Botanical Society of Britain and Ireland ers 2010. 

Diddordebau Ymchwil

Ymchwil i ystod eang o bynciau botanegol ar gyfer digwyddiadau allestyn ac arddangosfeydd y Gwyddorau Naturiol – beth yw’r ffordd orau o arddangos a defnyddio’r casgliadau botanegol ar gyfer y rhain.

Ymchwil i ddulliau newydd o arddangos y casgliadau macroalgâu mewn cydweithrediad â’r Cadwraethydd Annette Townsend.

Ymchwil i sbesimenau math sy’n bodoli eisoes a darpar sbesimenau math mewn planhigion is, er enghraifft, yn llysieufa algâu rhwymedig Lewis Weston Dillwyn.

Cysylltiadau

Detholiad o Gyhoeddiadau

Slade, K. 2015. The 3D slide collection at Amgueddfa Cymru/National Museum Wales. Natur Cymru. Spring 2015, p44

Slade, K. 2015. Poster Presentation at Porcupine Marine Natural History Society AGM 2015: ‘Evidence for Non-native Seaweeds in Wales’

Slade K. 2014.

Alive or Dead: Resurrection Plants
. Cylchlythyr Cyfeillion Amgueddfa Cymru, rhifyn Medi 2014 issue. 13-14.

Slade K. & Whyman, S. 2014.  Report on the Guernsey seaweed fieldwork [PDF].  Porcupine Marine Natural History Society’s Newsletter, Gwanwyn 2014.

Slade K. 2014.  Historical recording of seaweeds in Guernsey [PDF]. Porcupine Marine Natural History Society’s Newsletter, Gwanwyn 2014.

Lughadha, E.N., Slade, K., Jennings, L., Boudet-Fernandes, H. & Lucas, E. 2010.  Three new species of Myrcia section Gomidesia (Myrtaceae) – from Espírito Santo, Brazil. Kew Bulletin, 65, 21-28.

Slade, K. & Rich, T.C.G. 2007. Pollen studies in British Hieracium sect. Alpina (Asteraceae) [PDF].  Watsonia, 26, 443-444.

Slade, K. & Rich, T.C.G. 2006.  Pollen studies in British Hieracium section Alpina [PDF]. Yn: Vreš, B. & Babij, V. (gol.), 9th International Hieracium Workshop, Trenta (Julian Alps), Slovenia, 6–11 September, 2006.  Jovan Hadži Institute of Biology, Scientific Research Centre SASA, Ljubljana, t. 27.

Postiau Blog