Dyn yn sefyll o flaen sgerbwd deinosor.

Manylion Cyswllt

Dr Trevor Bailey
Y Gwyddorau Naturiol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Ffôn: +44 (0)29 2057 3283

Enw Staff

Dr Trevor Bailey

Enw Swydd

Uwch Guradur: Palaeontoleg

Cyfrifoldebau:

Casgliadau palaeontoleg – yn enwedig Mesosöig ac iau, a phlanhigion ffosil. Cyfrannu at arddangosfeydd a rhaglenni cyhoeddus. Ateb ymholiadau a hwyluso mynediad at y casgliadau ffosilau.

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

BA Gwyddorau’r Ddaear (Oxford); M. Research Gwyddorau Atmosfferig a’r Ddaear (Reading); PhD Geocemeg a Stratigraffeg (Royal Holloway University of London). Wedi bod mewn swyddi ymchwil yn Rutgers University, NJ, USA a Phrifysgol Bryste.

Aelod o: Natural Sciences Collections Association, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.

Diddordebau Ymchwil

Mae fy mhrofiad ymchwil yn ymwneud â dadansoddiad geocemegol o ffosilau carbonad a chregyn cyfoes. Gall cregyn molysgaidd, braciopodaidd a fforaminifferaidd gofnodi newidiadau yn amgylcheddau'r gorffennol drwy eu cyfansoddiadau elfennol ac isotopig. Mewn gwaith blaenorol, rwyf wedi datblygu technegau dadansoddol.

Mae gen i brofiad o bob elfen o waith arddangos mewn Amgueddfa, o lunio cysyniadau gwreiddiol hyd at gyd-guradu a chyflwyno. Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio ar arddangosfeydd rhyngddisgyblaethol, ac ail-ddehongli casgliadau hanes natur a gymerwyd o gyd-destunau trefedigaethol.

Allweddeiriau

Cemeg cregyn modern a ffosiliau. Hinsawdd y Gorffennol. Arddangosfeydd a Dehongli. Casgliadau a Churadu. Paelaeobotaneg. Carbonadau. Brachiopodau. Abladiad Laser. Ffosiliau mewn Mytholeg. Sganio 3D. Argraffu 3D.

Cysylltiadau

Detholiad o Gyhoeddiadau

Butler, S., Bailey, T.R., Lear, C.H., Curry, G.B., Cherns, L. & McDonald, I., 2015. The Mg/Ca–temperature relationship in brachiopod shells: Calibrating a potential palaeoseasonality proxy. Chemical Geology, 397, 106-117.  

Lear, CH, Bailey, TR, Pearson, PN, Coxall, HK, Rosenthal, Y. Cooling and ice growth across the Eocene-Oligocene transition [PDF]. Geology 36 (3), 251–254. 2008.

Bailey, TR, Lear, CH. Testing the effect of carbonate saturation on the Sr/Ca of biogenic aragonite: A case study from the River Ehen, Cumbria, UK. Geochemistry Geophysics Geosystems 7. Q03019 / 000236729000002. 2006.

Postiau Blog

Trevor Bailey
24 Ionawr 2020
gan Trevor Bailey
18 Mai 2016
Erthygl
26 Chwefror 2014