Cadi Iolen

Manylion Cyswllt

Cadi Iolen
Diwydiant
Amgueddfa Lechi Cymru

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY

Ffôn: +44 (0)29 2057 3714

Enw Staff

Cadi Iolen

Enw Swydd

Uwch Guradur: Llechi

Cyfrifoldebau:

Casgliad y diwydiant llechi (sy’n cynnwys gweithdy’r chwarel a’i gyfarpar peirianneg gwreiddiol, yr olwyn ddŵr a phatrymau pren y ffowndri; offer llaw y chwarel; locomotifau, wagenni a chloddwyr o ddechrau’r ugeinfed ganrif; darluniau a cherfluniau yn ymwneud â’r diwydiant llechi; ffotograffau archif; tŷ gwreiddiol y peiriannydd a thai’r chwarelwyr wedi’u hailgodi, pob un wedi’i ddodrefnu’n gywir; hanes llafar).

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

  • BA (Anh.) Hanes / Astudiaethau Addysg (Prifysgol Bangor)
  • MA Astudiaethau Amgueddfa (Prifysgol Caerlŷr).

Diddordebau Ymchwil

Hanes a datblygiad y diwydiant llechi yng Nghymru; agweddau cymdeithasol y diwydiant llechi a’r cymunedau a ddatblygodd o’u hamgylch; hanes a datblygiad Chwarel Dinorwig, yn enwedig cau’r chwarel; mudo o ardaloedd y llechi yng Nghymru i wledydd eraill oedd yn cynhyrchu llechi (yn benodol UDA); ymateb y chwarelwyr i’r Rhyfel Byd Cyntaf; hanes amgueddfeydd diwydiannol; terminoleg y chwarel a phwysigrwydd y Gymraeg.

Allweddeiriau

Llechi

Detholiad o Gyhoeddiadau

Postiau Blog

gan Cadi Iolen
24 Mai 2020