Dim llun

Manylion Cyswllt

Lowri Jenkins
Bywyd Gwerin
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ffôn: +44 (0)29 2057 3444

Enw Staff

Lowri Jenkins

Enw Swydd

Archifydd Cynorthwyol

Cyfrifoldebau:

Casgliadau Archif Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Arbenigedd penodol ym maes casgliadau Llawysgrifau a Ffotograffau. Mae casgliadau llawysgrifau a ffotograffau’n cynnwys deunydd sy’n berthnasol i fywyd bob dydd pobl Cymru e.e. bywyd gwaith, bywyd cartref, bywyd cymdeithasol; bywyd diwylliannol, bywyd addysgol a ffynonellau eraill o ddiddordeb arbenigol gan gynnwys dodrefn Cymreig, gwisgoedd, crefftau a thechnegau adeiladu traddodiadol.

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

MA Hanes Modern a Chyfoes (Prifysgol Morgannwg); Diploma Ôl-raddedig mewn Gweinyddu Archifau (Aberystwyth); Aelod o’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion; Aelod o Archif Menywod Cymru.

Diddordebau Ymchwil

Hanes merched Cymru yn y 19eg a’r 20fed ganrif, yn benodol effaith crefydd ac Anghydffurfiaeth ar ferched Cymru a phrotestiadau merched Cymru gan gynnwys papurau o’r casgliadau ynghylch digwyddiadau Comin Greenham; y defnydd o ddeunydd Archif i ymgysylltu â grwpiau cymunedol fel pobl sydd â dementia.

Allweddeiriau

Archif Llawysgrifau; Archif Ffotograffau; Hanes merched Cymru yn y 19eg a’r 20fed ganrif ac effaith crefydd ac Anghydffurfiaeth; Hanes protestiadau merched Cymru gan gynnwys Comin Greenham; y defnydd o’r archifau â grwpiau cymunedol a phobl sydd â dementia.

Detholiad o Gyhoeddiadau