Dim llun

Manylion Cyswllt

Elen Phillips
Bywyd Gwerin
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ffôn: +44 (0)29 2057 3432

Enw Staff

Elen Phillips

Enw Swydd

Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol

Cyfrifoldebau:

Casgliadau cyfoes; ymgysylltu cyhoeddus; cydweithrediad a chyfranogiad cymunedol; cydguradu; canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyfrifoldebau am gasgliadau: Gwisgoedd (ffasiwn, dillad gwaith, ategolion, gwisgoedd Cymreig, gwisgoedd a lifrai swyddogol); crefftau tecstilau.

Cymhwysterau ac Aelodaeth o Gyrff Perthnasol

BA (Anrhydedd) mewn Hanes (Aberystwyth), MA mewn Astudiaethau Ethnolegol Cymru (Caerdydd), Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Amgueddfeydd (Caerlŷr); Museums Association (aelod unigol); Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin, Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru (aelod o’r Pwyllgor); Archif Menywod Cymru (aelod unigol).

Diddordebau Ymchwil

Ymarfer curadur cyfranogol; methodolegau casglu cyfoes; hanes curadu yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu deunyddiau gwreiddiol; bywgraffiadau gwrthrychau; meicro hanes.

Cwiltio a chynlluniau cyflogaeth yn y crefftau yng Nghymru rhwng y ddau ryfel byd; Castell Sain Ffagan a gwaith gwirfoddol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; dynion a gwniadwaith; gwisgoedd Cymreig fel ffordd o nodi hunaniaeth.

Allweddeiriau

Casgliadau cyfoes, cydguradu, effaith gymdeithasol, cyfranogiad, hunaniaeth a chynrychiolaeth.

Cysylltiadau

Detholiad o Gyhoeddiadau

Hughes, S. & Phillips, E. 2019. From Vision to Action: The journey towards activism at St Fagans National Museum of History. Mewn R. Janes & R. Sandell (gol), Museum Activism(London & New York: Routledge), 245-255.

Phillips, E. 2019. Quilting Venice / Cwiltio Fenis. Mewn S. Edwards, Undo Things Done (Liverpool & Wrexham: Bluecoat/Ty Pawb), 33-47.

Phillips, E. 2014. A picture of the past and a mirror of the present: Iorwerth Peate and the origins of the Welsh Folk Museum. Yn Z. Baveystock and O. Rhys (gol), Collecting the Contemporary (Edinburgh & Cambridge, MA: Museums Etc), 40-62.

Phillips, E. 2013.Touching Objects: St Fagans National History Museum. Museum Practice, (Chwefror 2013).

Prichard, S. (gol.) 2010. Quilts 1700-2010: Hidden Histories, Untold Stories (London: V&A Publishing). (E. Phillips cofnod catalog).

Neuland-Kitzerow, D. et al (gol) 2009. Inlaid Patchwork in Europe from 1500 to the Present (Berlin: Museum of European Cultures). (E. Phillips cofnod catalog).

Hughes, S.Phillips, E. & Rhys, Owain, 2008, Pop Peth: exhibiting contemporary music in a gallery context [PDF]Collectingnet Newsletter, 3.

Phillips, E. 2006. Reconstructing St Teilo’s Church, Material Religion: The Journal of Objects,  Art and Belief, 2, rhifyn 2.

Postiau Blog

gan Elen Phillips
13 Ionawr 2015
gan Elen Phillips
19 Rhagfyr 2014