Partneriaethau Corfforaethol

Gwreiddiau Dwfn

Gosodwyd ein sylfaen gan rai o Gymry mwyaf blaengar eu hoes: diwydiannwyr, arloeswyr a phobol y pethe.

Mae'r elusen a sefydlwyd ganddyn nhw 110 mlynedd yn ôl tyfu'n gadarnle sy'n adlewyrchu diwylliant a gwerthoedd ein cymunedau.

Ymunwch â'r linach hon o gyfrannwyr elusennol:

Aelodaeth gorfforaethol

Dod yn Noddwr Corfforaethol

Llun: Seiliau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 1915

Gofodau Hynod

Rydym ni wedi bod yn gofalu am gasgliadau ceinia' Cymru ers dros ganrif, a'n eu harddangos mewn gofodau rhyfeddol.

O neuaddau marmor i neuadd y gweithwyr: gall ein pecynnau corfforaethol gynnwys defnydd o'r gofodau hyn ar gyfer dathliadau a digwyddiadau.

Ein Ffordd o Weithio

Gyda nawdd corfforaethol, rydym wedi gallu darparu prentisiaethau a chyfarpar i bobol ifanc gael ehangu eu gorwelion a hogi eu sgiliau.

Ni yw darparwr addysg tu-hwnt-i'r-dosbarth mwyaf Cymru - a mae'n hamgueddfeydd yn lefydd ble y gall unrhyw un ddod i ddysgu ac ennill hyder, beth bynnag fo'u cefndir.

Gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth go-iawn. Cysylltwch â ni drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.

Ein Cynulleidfaoedd

Mae dros 1.6 miliwn o bobl o bob math yn ymweld â ni bob blwyddyn.

Mae rhai o'n harddangosfeydd mwyaf poblogaidd wedi'u brandio ar y cyd â'n noddwyr corfforaethol - o arddangosfeydd gwyddoniaeth i deuluoedd i gelf gyfoes.

Yn rhyngwladol, mae ein cynulleidfa ddigidol yn estyn ar draws y byd - rydym yn sôn am Gymru wrth 150,000 o ddilynwyr, bob dydd, ac mae'n cynulleidfaoedd digidol yn ein helpu i ymddangos ar dros 2 filiwn o sgriniau, o wythnos i wythnos.

Amgueddfa Wlân Cymru

Mentrau AOCC

Mae tîm Mentrau AOCC Cyf. yn gweithio gyda'n partneriaid i greu cyfleon masnachol gwych, ac i ddod â'r gorau o Gymru i'n siopau safle a'n  

siop ar-lein.

Os hoffech chi drafod gweithio gyda Mentrau AOCC, neu os hoffech chi fanteisio ar ein gwasanaeth Ffilmio Lleoliad neu Logi Preifat,

cysylltwch â'r tîm.