Swyddi
Swyddog Digwyddiadau, Amgueddfa Lechi Cymru
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Sut i wneud cais
- Lawrlwytho'r Ffurflen gais Microsoft Word
- Lawrlwytho'r Canllawiau Recriwtio (Microsoft Word)
- Lawrlwytho'r Ffurflenni Archwilio Cefndir a Monitro Cydraddoldeb
llenwi'r ffurflenni ar y cyfrifiadur a'i dychwelyd i'n cyfeiriad e-bost ad.swyddi@amgueddfacymru.ac.uk (rydyn ni'n argymell cadw copi ar eich cyfrifiadur hefyd).
neu
- Lawrlwytho'r Ffurflen gais Adobe PDF
- Lawrlwytho'r Canllawiau Recriwtio (PDF)
- Lawrlwytho'r Ffurflenni Archwilio Cefndir a Monitro Cydraddoldeb
Dalier sylw, bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflenni Archwilio Cefndir a Monitro cyn i ni brosesu eich cais.
Argraffu'r ffurflen, ei llenwi â llaw a'i gyrru i'r:
Adran AD
Amgueddfa Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NP.
Defnyddiwch y darn o'r ffurflen gais dan y pennawd "Y swydd yr ymgeisir amdani" i nodi'r glir ai swydd llawn neu rhan amser sydd gennych mewn golwg (neu'r ddwy).
Peidiwch ag anfon CV, dim ond ffurflenni cais gaiff eu hystyried.
Yn anffodus, oherwydd y nifer o geisiadau a ddisgwylir mewn perthynas â'r swydd hon, ni fydd yn bosibl i ni ysgrifennu'n bersonol at bob ymgeisydd aflwyddiannus. Fodd bynnag, bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal fel arfer o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau.
Noder, bydd y gost o anfon y ffurflen gais ac unrhyw atodiadau yn ôl i'r Adran Adnoddau Dynol yn fwy na phris un stamp dosbarth cyntaf.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
