Chwip a Thop

Chwip a Thop

Mae'n debyg bod plant wedi bod yn chwarae â thopiau ers bod moch y coed yn tyfu ar goed pinwydd, a cherrig siâp conau yn gorwedd ar lawr. Weithiau defnyddid carrai neu lasys sgidiau ar gyfer y chwip a hoeliwyd hoelen o esgid tad-cu i'r top i'w wneud yn fwy cadarn a'i wneud i droelli'n well. Byddai plant yn mwynhau darlunio patrymau hardd mewn sialc ar y top, i greu effaith tebyg i Galeidosgop wrth ei fod yn troi. Yn ôl rhai rheolau, dylid chwarae â'r chwip a thop yn y Gwanwyn yn unig (Mawrth ac Ebrill). O dorri'r rheol hon 'byddech yn cael eich 'smygio' h.y. byddai'r chwip a'r top yn cael eu cymryd ymaith!

Awgrym am weithgaredd: Gwneud top.

Byddwch angen:

  • Darnau o gerdyn trwchus
  • Clawr crwn e.e. o bot jam bach
  • Pren coctel neu fatsien (gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i oedolyn i'ch helpu)
  • pensil, pennau ffelt, siswrn

Gosodwch y clawr crwn ar ddarn o gerdyn. Tynnwch linell o amgylch y clawr i wneud siâp cylch. Torrwch y cylch allan o'r cerdyn. Addurnwch y cylch fel yr ydych chi'n dewis. Gwnewch dwll ynghanol y cylch. Gwthiwch y pren coctel/ matsien drwy'r twll. Chwiliwch am arwynebedd llyfn a throwch eich top!