Coits

Y discws Groegaidd neu Rufeinig yw tarddiad coits. Disg solet, fflat o garreg neu fetel oedd y discws, ac fe'i teflid i brofi cryfder neu sgil. Cylchoedd o bren, metel, haearn neu ifori yw Coits, a daflwyd o amgylch pin neu rif.

Gellir chwarae coits tu fewn neu tu allan mewn sawl ffordd. Gellir ei chwarae gyda phin wedi'i fowntio mewn bwrdd neu stand, wedi'i wthio i'r ddaear neu wedi'i osod mewn blwch o glai. Yn draddodiadol byddai dynion y pentref yn herio dynion y pentref nesaf i ornest coits. Codwyd postyn mawr a byddai'r dynion yn sefyll o'i amgylch i daflu coits gan obeithio y byddent yn glanio ar y postyn.

Awgrym am weithgaredd: Gwneud gem Coits

Byddwch angen:

  • Potel sebon golchi llestri blastig gwag (crwn)
  • Peg ddoli
  • Clai
  • Siswrn

Torrwch gylchoedd tua 2cm o led o'r botel sebon golchi llestri (efallai bydd angen i chi ofyn i oedolyn am help). Lluniwch y clai yn siâp ciwb. Gwasgwch y peg doli i mewn i'r ciwb. Sefwch yn ôl i daflu'ch coits cartref dros y ddoli peg!