Marblis

Marblis

Roedd y Groegwyr a'r Rhufeiniaid hynafol yn mwynhau chwarae marblis. Defnyddid peli o gerrig fel marmor yn y gemau cynnar. Dyma darddiad yr enw 'marblis'. Yr enw Saesneg am farblis gwydr oedd steelies; gelwid rhai clai yn commoneys, rhai brown yn stonies a rhai alabastr yn allies. Byddai plant yn gwneud eu marblis eu hunain trwy rolio a phobi clai. Fel arfer byddent yn cario'r clai gwlyb o'r afon, llyn neu nant agosaf! Gelwid y marblis cartref hyn yn marididdles.

Hefyd cai'r plant farblis o boteli pop swigod arbennig o'r enw poteli Codd. Enwyd y botel hon ar ôl ei dyfeisiwr Hiram Codd a gynlluniodd y botel ar ffurf pysgodyn! Cedwid y swigod yn y pop gan farblen gwydr yn nhop y botel. Ar ôl gorffen y pop byddai plant yn malu'r Botel Codd i gael y farblen allan. Gelwid y farblen o'r botel Codd yn Ali Bop - allie o botel bop!

Awgrym am weithgaredd: Gwneud marididdles

Byddwch angen:

  • Bwced llawn clai gwlyb. Os ydych chi'n ei gasglu o afon, llyn neu nant gyfagos, gofynnwch i oedolyn gario'r bwced!
  • Hambwrdd pobi
  • Ffwrn gynnes
  • Paent

Lluniwch y darnau clai yn beli o wahanol feintiau. Gosodwch nhw ar yr hambwrdd pobi. Pobwch nhw mewn ffwrn gynnes. Pan maent yn barod, tynnwch nhw o'r ffwrn a gadewch iddynt oeri. Pan fyddant yn oer peintiwch nhw â lliwiau llachar. Nawr gallwch chwarae marblis gyda marididdles!