Ymchwil yn Amgueddfa Cymru

Pwy ydyn ni?

Caiff Amgueddfa Cymru ei chydnabod yn sefydliad ymchwil annibynnol (IRO) gan Ymchwil ac Arloesedd y DU. Mae’n cynnwys saith amgueddfa o bwys ledled Cymru, yn ogystal â’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw sy’n storio miloedd o wrthrychau diddorol nad ydynt yn cael eu harddangos yn gyhoeddus.

Mae’r gwahanol leoliadau yn cyfuno i greu Amgueddfa aml-ddisgyblaethol unigryw, sy’n ein galluogi i ddefnyddio ein casgliadau i ymchwilio i ystod eang o bynciau, gan gynnwys daeareg, botaneg a sŵoleg, hanes cymdeithasol, archaeoleg, diwydiant, celf, casgliadau, addysg, a llyfrgelloedd ac archifau – yn syml, ymchwil ar wyddoniaeth, hanes a diwylliant Cymru a thu hwnt.

Mae Amgueddfa Cymru yn aelod o IROC, sef Consortiwm y DU o sefydliadau ymchwil annibynnol, sy’n cyfarfod yn rheolaidd ac sy’n gweithio i wella’r berthynas ymchwil ymysg y sefydliadau sy’n aelodau o’r consortiwm a’u perthynas â’r cyhoedd, cyllidwyr ymchwil a rhanddeiliaid eraill.

Strategaeth Ymchwil 2018-21

Pam ymchwilio?

Mae ymchwil yn greiddiol i’n gwaith fel amgueddfa genedlaethol. Rydym yn gwneud cyfraniad allweddol i ysgolheictod ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol yn ein meysydd arbenigol allweddol. Ein bwriad yw defnyddio ein hymchwil i feithrin poblogaeth hyddysg a chwilfrydig ac i ddatblygu cymdeithas gref a ffyniannus yng Nghymru a thu hwnt.

Drwy ein hymchwil rydym yn sicrhau bod ein rhaglenni cyhoeddus a’n harddangosfeydd yn gweithio gyda’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae’n ein galluogi i gyflwyno ein casgliadau ar-lein at ddefnydd ymchwil ac addysg o bob math. Mae hefyd yn cefnogi ac yn gwella ein gwaith cadwraeth treftadaeth. Cyfraniad pwysicaf ymchwil yw cynyddu ein gwybodaeth am Gymru a’r dealltwriaeth o’r wlad a’i lle yn y byd, cynyddu ymwybyddiaeth o faterion byd-eang, a’n helpu i ateb y cwestiynau pwysig sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw.

Drwy hyn, mae ymchwil yn cyfrannu at ein Gweledigaeth: o ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles; i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd.

Ein hymchwil

Rydym yn ymchwilio drwy casglu, cofnodi, cadw, dehongli a chyflwyno gwrthrychau a gwybodaeth berthnasol, boed yn gysylltiedig â Chymru neu beidio. Mae’n gymorth i ni holi ac ateb cwestiynau allweddol sy’n wynebu Cymru a chymdeithas yn gyffredinol:

  • Sut all ein casgliadau ein helpu i ddysgu mwy am newid hinsawdd a sut mae hyn yn effeithio ar ein gallu i fyw’n gynaliadwy?
  • Pa ddeunyddiau crai sydd i’w cael yng Nghymru a sut mae dyn wedi manteisio ar hyn dros y canrifoedd?
  • Rydyn ni’n dysgu am rywogaethau planhigion ac anifeiliaid newydd a sut y gall hyn ein helpu i ddeall newid hinsawdd, heddiw ac yn y gorffennol daearegol?
  • Sut mae gweddillion o gloddiadau archaeolegol yn taflu goleuni ar fywyd yn y gorffennol, ond hefyd yn gymorth i ni ddeall natur cymdeithas heddiw?
  • Beth oedd rôl Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol a sut y dylanwadodd y diwydiannau cynnar (tecstilau, smeltio, trin haearn, chwareli llechi a phyllau glo) ar datblygiad cymdeithas, a’u heffaith ar weddill y byd?
  • Beth all ein casgliadau celf a ffotograffiaeth ei ddatgelu am gyfraniad Cymru at ddatblygiad mudiadau celf cenedlaethol a rhyngwladol, gyrfaoedd, casgliadau, rhwydweithiau a chymunedau creadigol? Hefyd i’r gwrthwyneb, sut siapiwyd diwylliant celfyddydol Cymru, ei arfer a’i nawdd, gan ddylanwad cenedlaethol a rhyngwladol?
  • Sut mae hanes a diwylliant celf a dylunio Cymru yn unigryw mewn cyd-destun rhyngwladol?
  • Sut mae gwrthrychau, arteffactau a sbesimenau yn gymorth i ateb cwestiynau ymchwil pwysig, a sut y gallwn ddod i ddeall eu nodweddion yn well fel y gallant barhau i fod yn dystiolaeth ymchwil hanfodol?
  • Sut allwn ni feithrin ein perthynas â chymunedau a dinasyddion, boed yn ymwelwyr neu beidio, er mwyn dod yn sefydliad mwy agored a chynhwysol parthed ein gwaith addysg?
  • Sut mae Cymru wedi esblygu o hen hanes hyd heddiw?