Ymchwil ym maes Gwasanaethau Casgliadau – astudiaethau achos

Sut y mae gwrthrychau, arteffactau a sbesimenau’n ein helpu i ateb cwestiynau ymchwil pwysig, a sut y gallwn ddeall eu priodweddau fel deunyddiau’n well er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer ymholiadau?

Mae ymchwil ym maes cadwraeth yn canolbwyntio ar y gwrthrychau a gedwir yn y casgliadau – boed yn sbesimenau gwyddonol, yn weithiau celf, yn ffotograffau, yn ddarganfyddiadau archaeolegol, yn adeiladau hanesyddol neu’n arteffactau hanesyddol – ac mae’n gwella ein dealltwriaeth o’u harwyddocâd a’u gwerth diwylliannol.

Mae pob ased treftadaeth yn dueddol o ddirywio. Mae prosesau dirywio’n gymhleth ac maent yn cynnwys rhyngweithio rhwng gwrthrychau, yr amgylchedd a phobl; heb ddealltwriaeth wyddonol o sut y mae’r prosesau hyn yn gweithio, ceir perygl y bydd gwybodaeth ddiwylliannol a gwyddonol yn cael ei cholli. Mae ymchwil ym maes cadwraeth yn archwilio’r modd y gellir arafu prosesau dirywio, naill ai trwy driniaethau ymyrryd neu drwy reoli’r amgylchedd arddangos neu storio gyda’r bwriad o atal dirywiad.

Mae cadwraethwyr yn arbennig o awyddus i gadarnhau effaith triniaethau’r gorffennol a thriniaethau presennol; sicrhau nad yw triniaethau presennol yn lleihau’n anfwriadol y gallu i adfer gwybodaeth yn awr neu yn y dyfodol (e.e. astudiaethau DNA); a gwerthuso a fydd technegau presennol yn dal yn briodol mewn hinsoddau sy’n newid, ee caenau ar gyfer yr awyr agored.

Yn rhan o’u gwaith, mae cadwraethwyr Amgueddfa Cymru yn defnyddio’r canlynol yn rheolaidd:

  • Microsgopeg (optegol, electronau sy’n sganio, goleuni uwchfioled, goleuni polaraidd) i ddadansoddi haenau tenau a thrawstoriadau er mwyn rhoi gwybodaeth am: bapur a ffeibrau eraill; patrymau traul ar offer metel a charreg; a lliwiau a haenau penodol mewn paentiadau.
  • Radiograffeg-X i adnabod a dadansoddi deunydd archaeolegol sydd wedi diraddio; delweddau dan baentiadau; strwythur gwrthrychau er mwyn gallu gweld unrhyw ychwanegiadau neu addasiadau.
  • Technegau XRD, XRF, FTIR a SEM-EDX i ddadansoddi cyfansoddion, elfennau ac isotopau er mwyn deall o beth y mae deunydd wedi’i wneud ac i ba raddau y mae wedi diraddio; astudio gwrthrychau cyfansawdd er mwyn chwilio am ychwanegiadau diweddarach.

Mae ymchwil ym maes cadwraeth yn cynnwys:

  1. Gwyddor deunyddiau – deall o beth y mae pethau wedi’u gwneud a sut y mae’r hyn sydd wedi’i wneud i wrthrych dros amser yn effeithio ar ei ddilysrwydd
  2. Ymchwil arbrofol – trefnu arbrofion sy’n golygu bod modd rhoi prawf ar ddamcaniaethau ynghylch sut y mae gwahanol ffactorau’n effeithio ar sefydlogrwydd deunyddiau
  3. Ffiseg adeiladau – ymchwilio i’r modd y mae’r adeiladau a’r amgylcheddau yr ydym yn rhoi pethau ynddynt yn esblygu, er mwyn i ni allu atal unrhyw ddifrod iddynt wrth i ni eu harddangos

Projectau a amlygwyd:

Cadw casgliadau daearegol: Ysgoloriaeth ymchwil doethuriaeth, a ariannwyd gan Ganolfan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym maes y Celfyddydau, Treftadaeth ac Archaeoleg.

Tybir yn aml bod cyflwr casgliadau daearegol yn sefydlog yn naturiol o’u cymharu ag agweddau eraill ar gasgliadau amgueddfeydd. Eto i gyd, mae rhai casgliadau daearegol yn mynnu llawn cymaint o sylw a gwaith cynnal a chadw â chasgliadau o fetelau archaeolegol, ac maent yn cynnwys effeithiau amgylcheddol tebyg ac effeithiau tebyg yn ymwneud â llygredd. Fodd bynnag, ceir prinder gwybodaeth mewn pynciau a fyddai’n helpu amgueddfeydd i ofalu’n fwy effeithiol am eu casgliadau daearegol.

Mae 10% o’r rhywogaethau mwynau y gwyddys amdanynt yn sensitif i newidiadau mewn tymheredd neu leithder, neu maent yn gallu adweithio â llygryddion aer. Mae pyrit yn un enghraifft – mae’n fwyn cyffredin mewn casgliadau daearegol ac mae’n dueddol iawn o ddirywio. Eto i gyd, ychydig o waith sydd wedi’i wneud mewn amgueddfeydd ar gategoreiddio difrod i sbesimenau; dulliau gwrthrychol a rheolaidd o asesu cyflwr; a diffinio amgylchedd storio digonol neu driniaethau llwyddiannus o ran cadwraeth. Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon, sy’n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Brighton, yn datblygu methodoleg gadarn ar gyfer sicrhau bod gwaith cadwraeth ataliol effeithiol yn digwydd yng nghyswllt casgliadau daearegol.

Ymchwil acwstig arbrofol gyda hen offeryn cerdd o Gymru

Mae Amgueddfa Cymru yn ddigon ffodus i feddu ar un o’r tri yn unig o grythau Cymreig dilys sy’n dal i fodoli ym Mhrydain, a gedwir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Credwyd ar hyd yr amser bod gan yr hen offerynnau llinynnol, cribellog hyn yddfau solet, fel y gwelir yn yr holl atgynyrchiadau sy’n bod. Fodd bynnag, darganfu cadwraethwyr fod gan bob un o’r offerynnau gwreiddiol (heb ystyried cronoleg/tarddiad) yddfau gwag, a wnaeth i bobl ofyn: pa wahaniaeth y mae hynny’n ei wneud i ansawdd y sain a gynhyrchir? Trefnwyd arbrawf i gymharu’r effaith gyweiraidd, trwy greu atgynhyrchiad â gwddf solet i ddechrau a gwddf gwag wedyn, a defnyddio trawfforch yr oedd ei thraw yn hysbys. Yr effaith a gofnodwyd oedd bod cynnydd sylweddol (tua 7 eiliad) yn hyd y cyseiniant ar gyfer pob nodyn a chwaraewyd (yn debyg i bedal cynnal nodyn ar allweddell). At hynny, mae dyluniad coll mewn inc ar wddf yr offeryn, a amlygwyd gan oleuni uwchfioled, yn datgelu sut y byddai’r offeryn wedi cael ei chwarae. Mae’r gwaith hwn wedi amlygu nodwedd gerddorol hen offeryn cerdd, a aeth yn angof, ac mae wedi darparu gwybodaeth newydd am y profiad o wrando ar yr offeryn a’i chwarae – sy’n awgrymu sain cyseiniol ac atseiniol iawn a fyddai wedi creu naws eithaf hiraethus.

Darganfyddiad newydd mewn hen offeryn

Llun o ferch gyda geifr yn y dirwedd: Pam y mae’r geifr yn sgleinio?

Cafodd y llun dyfrlliw Prydeinig hwn sydd mewn ffrâm ac sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ei roi i’r amgueddfa yn rhan o rodd yn 2010. Tybiwyd bod yr artist wedi creu’r sglein yn fwriadol. Roedd gwaith dadansoddi cychwynnol yn awgrymu bod gwaith cadwraeth wedi’i wneud ar y llun gan ddefnyddio sylwedd sy’n cynhyrchu haenen denau o ddeunydd tryloyw sydd fel pe bai’n disgleirio. Y ddamcaniaeth oedd bod hynny wedi’i achosi o ganlyniad i ddefnyddio Cloramin T (cannydd). Cafodd y deunydd sgleiniog ei ddadansoddi gan ddefnyddio techneg FTIR a chadarnhawyd mai Para tolwen sylffemid ydoedd – a gynhyrchwyd o ganlyniad i fethu â golchi’r llun yn iawn ar ôl defnyddio Cloramin T.