Ein rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd

Yn 2006, fel rhan o'n Siarter Brenhinol diwygiedig, fe wnaethom ddatblygu

strategaeth newydd ar gyfer Ymgynghori ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd [PDF]

. Mae hyn yn esbonio pam ein bod yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwysig, a'n dulliau gwahanol o weithio gydag eraill. Ein nod yw datblygu amgueddfeydd a chasgliadau cenedlaethol gyda'n gilydd. Gallwn hefyd greu arddangosfeydd, arddangosiadau a gweithgareddau gwell sy'n trafod mwy o hanes Cymru mewn ffyrdd mwy diddorol ac arloesol, ar gyfer mwy o bobl.

Gwerthoedd ymgysylltu â'r cyhoedd:

  • Mae gan bawb hawl i gyfrannu at benderfyniadau ar waith Amgueddfa Cymru sy'n effeithio ar eu bywydau nhw
  • Gall rhanddeiliaid Amgueddfa Cymru wneud cyfraniad gwerthfawr iawn at ddatblygu a gweithredu ein Gweledigaeth
  • Dylai prosesau ymgysylltu â'r cyhoedd, a gyflawnwyd yn unol â'n Cynllun Ymgynghori, arwain at newid er gwell yn Amgueddfa Cymru.

Egwyddorion ymgysylltu â'r cyhoedd:

  • Bydd pob proses ymgysylltu yn gwneud gwahaniaeth;
  • byddwn yn gynhwysol;
  • ac yn hygyrch i bawb;
  • byddwn yn defnyddio adnoddau priodol;
  • byddwn yn parchu pawb sy'n gweithio gyda ni;
  • byddwn yn cydymffurfio â'r holl arferion ymchwil moesegol a deddfwriaethol;
  • byddwn yn gwbl agored, gonest a chlir gyda phobl o ran beth ellir ei gyflawni;
  • byddwn yn sicrhau y bydd arbenigwyr allanol yn cael eu defnyddio fel bo'r angen i sicrhau annibyniaeth;
  • byddwn yn hysbysu pobl am bob datblygiad gydol y broses ac yn dweud wrthynt beth yw'r canlyniadau y cytunwyd arnynt i sicrhau atebolrwydd;
  • byddwn yn meithrin cysylltiadau cynaliadwy gyda'r cymunedau yr ydym yn ymgysylltu â nhw;
  • a byddwn yn monitro a gwerthuso ein gwaith fel ein bod yn parhau i wella'n dull o ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cyflawnir y gwaith hwn gan ein staff ar y cyd â'n hymwelwyr, rhai nad ydynt yn ymweld â'n hamgueddfeydd, a'r rhai sy'n cyrchu'n casgliadau trwy'n gwefan, yn ein canolfannau partner neu trwy ein gwaith allestyn. Trwy hyn, bydd staff yn gallu canfod barn pobl am ein gwaith, a sut y gallwn ni wella pethau.

Rydym hefyd yn defnyddio ymchwilwyr annibynnol i gynnal arolygon ar raddfa fawr, gweithio gyda grwpiau ffocws, a gwneud gwaith arsylwi sylweddol. Mae hyn yn ategu gwaith ein staff, a chyda'i gilydd, maent yn creu darlun unigryw o ba mor dda mae'r Amgueddfa yn gweithio gyda phobl i ddatblygu ein hamgueddfeydd cenedlaethol ni.

Mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru.