Gweithio gyda phobl ifanc

Ar Dir Cyffredin: Amgueddfeydd, treftadaeth, diwylliant — beth sy 'na i fi?

Bu'r Amgueddfa'n cydweithio â chymunedau lleol ar hanner cant a mwy o brojectau gwahanol fel rhan o raglen Ar Dir Cyffredin. Ein nod oedd annog pobl na fyddent fel arfer yn ymweld ag amgueddfeydd cenedlaethol i ymddiddori mewn treftadaeth a diwylliant. Dechreuodd y rhaglen yn 2002, ac mae wedi helpu pobl ifanc 14-24 oed i feithrin sgiliau, cyfleoedd a phrofiadau diwylliannol - pobl ifanc o gymunedau difreintiedig a/neu rai sy'n wynebu anfanteision yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion, Torfaen, Caerffili ac Abertawe.

Ymunodd yr holl grwpiau â gweithdai gydag artistiaid profiadol, a oedd yn trafod agweddau ar eu treftadaeth ddiwylliannol, gan greu gwaith project o safon mewn cyfrwng o'u dewis — o animeiddio i ddylunio gwefan.

Yn ogystal â chynnig cyfleoedd ac achrediadau i bobl ifanc, mae rhaglen Ar Dir Cyffredin yn dangos bod gan amgueddfeydd yr unfed ganrif ar hugain rywbeth i'w gynnig i bawb yn y gymuned, waeth beth fo'u hoed, eu gallu neu gefndir diwylliannol.

Mae'r project wedi dangos bod modd sicrhau canlyniadau cadarnhaol trwy feithrin cysylltiadau hirdymor â chymunedau, ac mae'n sail i'n dulliau o weithio gyda phobl a chymunedau bellach.

» www.ardircyffredin.co.uk