Y casgliadau cenedlaethol ar-lein

Rhagor
People's Collection Wales

Mae Casgliad y Werin a'n gwefan 'Rhagor' yn rhoi cyfle i chi gyrchu a chreu eich amgueddfa eich hun, a chael mynediad i'r casgliadau cenedlaethol.

Cafodd Casgliad y Werin Cymru ei lansio yn 2010. Dyma’r lle i glywed rhai o leisiau enwocaf Cymru, a chreu eich teithiau eich hun o amgylch safleoedd treftadaeth amrywiol y wlad, a’u cadw ar eich dyfais symudol er mwyn dysgu mwy am hanes a threftadaeth eich ardal, ble bynnag y byddwch. Mae ystod o grwpiau swyddogol ac anffurfiol, o lyfrgellwyr i grwpiau hanes lleol, wedi cael hyfforddiant ar dechnegau amlgyfrwng a digidol a bellach mae dros 5,000 o gyfraniadau gan grwpiau neu unigolion ar y wefan ac mae 172 o grwpiau’n cymryd rhan weithredol yn y project.

Rhagor yw’r wefan lle cewch y straeon sydd tu ôl i’r casgliadau cenedlaethol, gan gynnwys erthyglau, lluniau, fideos, gweithgareddau rhyngweithiol, a llawer mwy sy’n helpu i ddod â’r cyfan yn fyw. Mae’r wefan wedi elwa ar gymorth arbenigwyr sydd â phrofiad o gynllunio gwefannau a’u gwneud yn hygyrch, yn ogystal â rhai heb fawr o brofiad o ddefnyddio’r rhyngrwyd.

At ei gilydd, maen nhw wedi helpu i greu a datblygu ein ‘hwythfed amgueddfa genedlaethol’. Mae’r tudalennau ‘Eich Hanes’ yn rhoi cyfle i chi gyfrannu eich lluniau a’ch atgofion chi i’r casgliadau, ac yn ffordd arall o ymgysylltu â threftadaeth Cymru.

» Rhagor o wybodaeth am Gasgliad y Werin