Amgueddfa Lechi Cymru — Pobl hŷn/Atgofion — Cofio'r Cau

Plac rhod ddŵr, gan Art Patnaude

Yn 2009, trefnodd yr Amgueddfa gyfres o ddigwyddiadau i goffáu deugain mlynedd ers cau chwarel Dinorwig, yn ogystal ag arddangosfa yn y man arddangos dros dro.

Roedd yr arddangosfa'n croniclo'r digwyddiadau a arweiniodd at gau'r chwarel, y prif resymau dros gau, ac effaith hynny ar y gymuned yn syth wedyn ac am flynyddoedd i ddod.

Nod y project oedd:

  • creu cyfres o straeon digidol a fyddai'n rhan o'r arddangosfa ar gau'r chwarel
  • creu cyfres o straeon digidol a fyddai'n cyfrannu at wefan Casgliad y Werin Cymru
  • cynnwys y gymuned leol wrth gofio achlysur cau'r chwarel
  • creu project pontio'r cenedlaethau, trwy gynnwys disgyblion ysgol uwchradd yn ogystal ag aelodau hŷn y gymuned
  • cynnwys trawstoriad o aelodau'r gymuned a gafodd eu heffeithio gan y cau — yn uniongyrchol ac anuniongyrchol
  • rhoi llais ac ymdeimlad o berthyn i aelodau'r gymuned leol, yn hytrach na chreu arddangosfa o safbwynt yr Amgueddfa

Yr hyn a gyflawnodd y project:

  • Trwy gynnwys trawstoriad o'r gymuned, mae'r straeon amrywiol wedi ehangu dealltwriaeth yr Amgueddfa a'i hymwelwyr o'r ymateb i gau'r chwarel
  • Roedd tîm yr Amgueddfa'n meddwl bod cau'r chwarel yn ergyd enfawr i'r ardal, ond ar ôl clywed y straeon, dysgwyd bod y gymuned yn gryf a gwydn iawn, a bod y rhan fwyaf o'r dynion wedi llwyddo i gael gwaith arall bron yn syth. Roedd hyn o gymorth wrth ysgrifennu'r testun ar gyfer ‘Cofio'r Cau'.
  • Nid oedd llawer o bobl yn credu bod ganddynt stori gwerth ei hadrodd — ‘Pam 'da chi'n gofyn i mi? Dw i'n siŵr y bydd pobl eraill yn llawer gwell na fi am wneud hyn!'. Roedd angen cryn ddarbwyllo ar rai, ond unwaith y dechreuon nhw siarad, sylweddolasant bod ganddynt rywbeth gwerth chweil i'w ddweud.
  • Cafodd 3-4 o bobl eu paru â 3-4 o ddisgyblion ym mhob sesiwn. Cafodd pawb flas ar gwmni'i gilydd — naill ai'n cyfarfod â phobl nad oeddynt wedi'u gweld ers tro byd, neu'n cwrdd â phobl newydd a dod i'w hadnabod, a chael gwybod pwy oedd yn perthyn ac ati!
  • Roedd pawb o'r cyfranwyr wedi mwynhau gweld eu gwaith ar sgrïn, ar ddiwedd y sesiwn ac yn ystod noson agoriadol yr arddangosfa.
  • Roedd teimlad cryf o fod wedi cyflawni rhywbeth arbennig ar ddiwedd pob sesiwn.

»

Rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Lechi Cymru